Mae canran y boblogaeth sydd yn cefnogi cadw’r Senedd dair gwaith yn uwch na chanran y boblogaeth sydd eisiau iddi gael ei diddymu, yn ôl arolwg barn diweddar.

Mae pôl piniwn y Western Mail yn dangos bod 61% yn credu y dylai barhau, tra bod 20% o bobol yn teimlo y dylid cael gwared arni.

Cafodd y gwaith ei gynnal gan asiantaeth Beaufort Research, ac mi ddaeth i’r amlwg bod oedolion o bob grŵp oedran ac ardal o blaid cadw’r Senedd.

Mae’n debyg mai pobol dros 55 oed, a phobol sy’n byw yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru, sydd fwyaf tebygol o gefnogi diddymu.

Ar y llaw arall, siaradwyr Cymraeg, pobol rhwng 25 a 44 oed a thrigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd fwyaf tebygol o gefnogi cadw’r Senedd.

Ystadegau yn ôl grŵp oedran

  • 16-24 – 50% o blaid cadw’r Senedd, 18% o blaid diddymu
  • 25-34 – 69% o blaid cadw’r Senedd, 13% o blaid diddymu
  • 35-44 – 70% o blaid cadw’r Senedd, 12% o blaid diddymu
  • 45-54 – 60% o blaid cadw’r Senedd, 19% o blaid diddymu
  • 55-64 – 61% o blaid cadw’r Senedd, 24% o blaid diddymu
  • 65+ – 58% o blaid cadw’r Senedd, 31% o blaid diddymu

Ystadegau yn ôl ardal

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru – 71% o blaid cadw’r Senedd, 17% o blaid diddymu
  • Gogledd Cymru – 60% o blaid cadw’r Senedd, 15% o blaid diddymu
  • Gorllewin De Cymru – 60% o blaid cadw’r Senedd, 19% o blaid diddymu
  • Y Cymoedd – 61% o blaid cadw’r Senedd, 22% o blaid diddymu
  • Caerdydd a De Ddwyrain Cymru – 57% o blaid cadw’r Senedd, 25% o blaid diddymu

Y Gymraeg

Mae 74% o siaradwyr Cymraeg rhugl am i’r Senedd barhau, ac mae 12% o blaid diddymu. Roedd 59% o’r rheiny sy’n ddi-Gymraeg yn gefnogol o’r Senedd, tra bod 21% yn cefnogi diddymu.

Ym mhob achos, ‘ddim yn gwybod’ oedd ateb pob un o’r rheiny na ddywedodd eu bod naill ai o blaid neu yn erbyn cadw’r Senedd.

Cynhaliodd Beaufort Research y gwaith rhwng Mawrth 2-9, gyda chyfanswm o 1,000 o gyfweliadau wedi’u cynnal.