Byddai tri o ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig ar restr ranbarthol Canol De Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd yn diddymu’r sefydliad, yn ôl adroddiadau.
Cafodd yr holl ymgeiswyr eu holi y llynedd fel rhan o’r broses o’u dewis sut fydden nhw’n pleidleisio pe bai refferendwm yn cael ei gynnal.
Dywedodd Joel James sy’n ail ar y rhestr, Calum Davies sy’n drydydd a Chris Thorne sy’n bedwerydd y bydden nhw am weld y sefydliad yn mynd.
Mae BBC Cymru yn adrodd eu bod nhw wedi gweld dogfennau gan y tri sy’n dweud eu bod nhw’n wrth-ddatganoli, ond dydy’r blaid ddim wedi gwneud sylw.
Andrew RT Davies sydd ar frig y rhestr ond does dim lle i gredu ei fod yntau o blaid diddymu’r Senedd.
Pan ddaeth y cwestiwn i’r amlwg ddiwedd y llynedd, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y cwestiynau’n cael eu holi “ar hap”.