Bydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain wedi cael cynnig y dos cyntaf o’r brechlyn coronafeirws erbyn mis Medi, yn ôl addewid gan Dominic Raab.
Yn ôl Ysgrifennydd Tramor San Steffan, byddai’n “wych” pe bai modd eu cynnig yn gynt, ond fe ddywedodd mai’r hydref yw targed Llywodraeth Prydain ar hyn o bryd.
Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday mai’r gobaith yw y bydd modd codi’r cyfyngiadau’n “raddol” er mwyn dychwelyd i ryw fath o “normalrwydd” yng ngwledydd Prydain.
Ond rhybuddiodd am beryglon yr amrywolion newydd a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, gan annog pobol i ddilyn y rheolau.
Mae mwy na 3.5m o bobol eisoes wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn coronafeirws, a chafodd tua 324,000 eu rhoi o fewn 24 awr.
Ac mae’n dweud y “dylai” pobol fod yn gallu derbyn ail ddos o fewn 12 wythnos.
Gwyliau
Yn y cyfamser, mae Dominic Raab hefyd yn gofyn i bobol beidio â mynd ar eu gwyliau, gan rybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd “ar y dibyn”.
“Mae’n rhaid i ni aros gartref gymaint â phosib oni bai bod rhesymau eithriadol, cyfyngedig, cryf iawn am deithio’n ddomestig neu’n rhyngwladol, a dyna’r ffordd orau o gyrraedd lle gwell,” meddai.
Mae’n dweud bod gweinidogion wedi ystyried “pob opsiwn”, ac mae lle i gredu bod hynny’n cynnwys cyflwyno gwestai cwarantîn.