Mae olion coronafeirws wedi’u canfod mewn cynnyrch hufen iâ yn nwyrain Tsieina, yn ôl llywodraeth y wlad.
Mae’r awdurdodau’n ceisio dod o hyd i’r bobol sydd wedi prynu tua 390 o becynnau yn ninas Tianjin, ac mae lle i gredu bod nifer fawr o becynnau wedi’u prynu mewn llefydd eraill.
Mae canolfan Daqiaodao Food Co yn Tianjin ynghau ac mae’r holl weithwyr wedi cael profion coronafeirws, yn ôl llywodraeth leol.
Does dim awgrym ar hyn o bryd fod neb wedi cael eu heintio gan yr olion yn yr hufen iâ.
Mae gan y cwmni ryw 29,000 o becynnau o’r hufen iâ oedd heb eu gwerthu.
Ymhlith cynhwysion yr hufen iâ mae dau wahanol fath o bowdr, un o Seland Newydd a’r llall o’r Wcráin.
Mae Llywodraeth Tsieina yn mynnu ers tro bod y feirws wedi dod o dramor, gan ddweud bod olion wedi’u canfod mewn pysgod a bwydydd eraill, ond mae eu honiadau wedi cael eu hamau gan wyddonwyr.