Barnwr Ladinaidd fydd yn arwain seremoni tyngu llw Kamala Harris, dirprwy arlywydd newydd yr Unol Daleithiau.

Mae Harris – y dirprwy arlywydd benywaidd a chroenddu cyntaf, a’r un cyntaf o dras Asiaidd – wedi dewis Sonia Sotomayor i ymgymryd â’r cyfrifoldeb – y barnwr Lladinaidd cyntaf erioed i wneud hynny.

Bydd hi’n defnyddio dau Feibl ar gyfer tyngu llw, ac un ohonyn nhw’n eiddo Thurgood Marshall, y barnwr croenddu cyntaf yn y Goruchaf Lys.

Mae gan Kamala Harris barch mawr i’r ddau ohonyn nhw ac mi ddywedodd yn y gorffennol fod Marshall yn un o’i “harwyr pennaf” ac yn “un o’r prif resymau” pam ei bod hi eisiau bod yn gyfreithwraig.

Sonia Sotomayor oedd wedi arwain seremoni tyngu llw Joe Biden yn 2013.