“Mae’r llwybr allan o’r pandemig o’n blaen,” yn ôl Mark Drakeford.

Dywed prif weinidog Cymru fod y wlad yn “dechrau gweld arwyddion positif” yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru.

“Ond gall y sefyllfa newid yn gyflym,” meddai ar Twitter.

“Mae’r llwybr allan o’r pandemig o’n blaen.

“Mae angen i ni i gyd gymryd camau i ddiogelu ein gilydd rhag y feirws cas hwn.”

Ffigurau diweddaraf

Daw ei sylwadau ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi 55 o farwolaethau yn eu ffigurau dyddiol ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 16).

Mae hynny’n golygu bod 4,226 o farwolaethau wedi’u cofnodi ganddyn nhw ers dechrau’r pandemig.

Ac fe wnaethon nhw gyhoeddi 1,129 o achosion newydd, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r ymlediad i 178,989.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.