Mae cyn-newyddiadurwr y BBC yn rhybuddio am ddyfodol y berthynas rhwng Cymru a Lloegr pe bai’r Deyrnas Unedig yn cael ei hollti.
Daw sylwadau Gavin Esler, cyn-gyflwynydd Newsnight, mewn cyfrol newydd am genedlaetholdeb Seisnig a pherthynas gwledydd Prydain, How Britain Ends: English Nationalism and the Rebirth of Four Nations, gyda phytiau ohoni’n cael eu cyhoeddi heddiw yn y Mail on Sunday.
Yn ôl Esler, gallai Cymru “gael ei llusgo gan Loegr” pe bai’r Deyrnas Unedig yn dod i ben.
Mae’n galw am ymreolaeth o’r newydd i wledydd Prydain fel ffordd o atal Prydain rhag dod i ben, wrth i’r Alban geisio annibyniaeth ac yn sgil ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Dywed ymhellach fod arwyddion yn ystod y pandemig coronafeirws mai “prif weinidog Lloegr” yw Boris Johnson, gyda mater datganoli wedi dod yn fwy amlwg wrth fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd.
Y berthynas
“Pe bai ymwahanu, gallai Cymru gael ei llusgo gan Loegr,” meddai.
“P’un a fyddai modd i undeb barhaus England-and-Wales gael ei disgrifio’n gywir fel ‘Gweddill y Deyrnas Unedig’ sy’n fater ar gyfer dadl, gan nad yw Cymru ynddi ei hun yn deyrnas, a gadael i’r naill ochr pa mor anosgeiddig yw’r enw.
“Yn bwysicch, does dim rheswm pam y byddai Lloegr neu England-and-Wales yn cadw statws aelod yn awtomatig ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
“Does dim modd cymryd unrhyw beth yn ganiataol.”
‘Enw yn unig’
Wrth ddisgrifio’i hun fel “Albanwr o ran genedigaeth” sydd o dras Albanaidd ac o deulu o unoliaethwyr Ulster, mae’n dweud bod y Deyrnas Unedig “yn unedig mewn enw yn unig”.
“P’un a ydych chi’n unoliaethwr Prydeinig neu’n un o sawl fersiwn o genedlaetholwr Albanaidd, Seisnig, Cymreig neu Wyddelig, y gwir amdani yw fod y Deyrnas Unedig yn unedig mewn enw yn unig bellach,” meddai.
“Y dewis ger ein bron yw naill ai dod ynghyd a gwneud newidiadau sylfaenol i’r ffordd rydyn ni’n cael ein llywodraethu, neu dderbyn bod y Deyrnas Unedig yn ei hanfod yn wladwriaeth fethedig, a chytuno i wahanu.
Prydeindod a chydweithio
Yng nghyd-destun y coronafeirws, dywed Gavin Esler fod gan Boris Johnson gyfle i “ddatblygu ei agenda” Brydeinig.
“Roedd cydweithio rhwng Llundain, Caeredin, Caerdydd a Belffast, a sôn am ffurfio llywodraeth o undod cenedlaethol neu garfan ymgynghorol o gyn-brif weinidogion,” meddai.
“Ond fe ddaeth yn glir yn fuan iawn nad oedd dim o hyn yn rhan o ddiffiniad Mr Johnson o “gyda’n gilydd”.
Mae’n dweud bod y pandemig wedi codi cwestiynau ynghylch y ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Prydain a’r llywodraethau datganoledig.
Dywed nad oedd Nicola Sturgeon yn deall negeseuon iechyd Boris Johnson, fod Cymru wedi egluro na fyddai’n dilyn Llywodraeth Prydain o reidrwydd, a bod Llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain.
Ymreolaeth
Un ateb sy’n cael ei gynnig gan Gavin Esler i sefyllfa’r Deyrnas Unedig yw ymreolaeth i bedair gwlad Prydain.
“Byddai adfywio’r syniad hwn yn gofyn am ddatganoli rhagor o bwerau i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac ailfeddwl am y berthynas rhwng rhanbarthau Lloegr a San Steffan,” eglura.
“Yn y pen draw, dw i’n credu bod yna ddau ganlyniad tebygol.
“Un yw ein bod ni, yng nghanol cynddaredd cenedlaetholdeb Seisnig sy’n mudferwi, yn dyst i’r sibrydion cyntaf ynghylch sut y daw Prydain i ben.
“Yr ail bosibilrwydd yw y bydd yr anfodlonrwydd hwn yn profi’n gatalydd ar gyfer ailddyfeisio’r Deyrnas Unedig fel rhyw fath o ail-Deyrnas Unedig sy’n aneglur ar hyn o bryd.
“Trydydd opsiwn yw cynnal y status quo – ond yn dilyn Brexit, dydy hynny ddim yn bosib bellach.”
Mae’n rhybuddio y gallai ymwahanu heb ddatrys y sefyllfa arwain at “argyfwng gwleidyddol llawn” ac mai ymreolaeth yw’r “gobaith olaf o achub y pethau niferus sy’n dda am ein Deyrnas Unedig”.