Mae Aelod Almaenig o Senedd Ewrop yn dweud bod llai o hiwmor yng nghyfarfodydd yr Undeb Ewropeaidd ers Brexit – am fod llai o bobol yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.

Yn ôl David McAllister, sy’n cynrychioli’r Almaen ym Mrwsel ond sydd o dras Brydeinig, mae hyn wedi arwain at drafodaethau â llai o eironi a sylwadau sarcastig ac mae’n dweud ei fod e a’i gydweithwyr yn gweld eisiau defnydd gwleidyddion Prydeinig o’r iaith.

“Rydyn ni hefyd yn gweld eisiau ein cydweithwyr Prydeinig am eu pragmatiaeth, eu hiwmor a’u rhethreg,” meddai.

Lingua franca

Saesneg yw ‘lingua franca’ neu iaith gyffredin Senedd Ewrop, er bod ganddi 24 o ieithoedd swyddogol.

Serch hynny, ychydig iawn o’r aelodau sydd â Saesneg yn iaith gyntaf, yn ôl David McAllister.

“Rydyn ni’n gweithredu mewn senedd lle mae llawer o Saesneg yn cael ei siarad, ond ychydig iawn o siaradwyr brodorol sy’n dal yma,” meddai.

“Mae gyda ni ein cydweithwyr Gwyddelig, efallai bod gennym ein cydweithwyr o Felita ac yna, efallai bod gennym gydweithwyr o wledydd eraill sydd â chefndir Prydeinig fel fi.

“Ond rydyn ni’n cael llawer o ddadleuon gwleidyddol mewn gweithgorau, pwyllgorau, yn y cyfarfod llawn, yn siarad Saesneg ond heb fod y siaradwyr yn siaradwyr Saesneg brodorol.

“Ac mae hynny’n golygu bod rhai agweddau ar iaith wleidyddol yn llai cyffredin yma bellach oherwydd dydy’r Prydeinwyr ddim yma bellach pan ddaw i hiwmor, eironi, bod yn sarcastig, y defnydd o ddiarhebion neu unrhyw elfennau steil eraill.

“Roedd gan yr Aelodau Prydeinig o Senedd Ewrop fantais enfawr bob amser mewn dadl agored oherwydd, yn syml iawn, mae ganddyn nhw grap gwell ar yr iaith Saesneg.”