“Annibyniaeth ydi’r unig ffordd ymlaen” i Gymru, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth iddi gyhuddo Llywodraeth Prydain o gipio cyllid ar ôl cipio grym.

Fe fydd llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn colli arian wrth i arian Ewrop oedd yn dod i’r llywodraethau hynny gael ei ddisodli gan gronfa newydd a fydd yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Prydain.

Fydd y llywodraethau datganoledig ddim yn cael dweud sut y caiff yr arian ei wario, yn wahanol i’r drefn pan oedd Cymru’n derbyn oddeutu £680m o’r Undeb Ewropeaidd cyn Brexit.

“Cipio grym yn gyntaf a rŵan, cipio cyllid,” meddai Liz Saville Roberts.

“Yn dynn ar sodlau Bil ddinistriol y Farchnad Fewnol, dyma ymosodiad Torïaidd di-gywilydd eto ar ddatganoli.

“Maen nhw’n tynnu arian oddi wrth ein cymunedau tlotaf ac oni bai ein bod ni’n eu rhwystro nhw, mi fydd datganoli’n bod mewn enw yn unig.

“Fyddan nhw ddim yn stopio efo hyn.

“Mae’n fwy amlwg nag erioed mai annibyniaeth ydi’r unig ffordd ymlaen – mae’n bryd cefnogi annibyniaeth yn yr orsaf bleidleisio ym mis Mai.”