Mae arlywydd Wganda wedi ennill chweched tymor wrth y llyw yn dilyn etholiad yn y wlad.

Daeth Yoweri Museveni i rym yn 1986, ond mae ei wrthwynebydd Bobi Wine – neu Kyagulanyi Ssentamu a rhoi ei enw go iawn iddo – yn honni bod canlyniad y bleidlais wedi’i threfnu.

Enillodd yr arlywydd 58% o’r bleidlais, tra bod ei wrthwynebydd wedi ennill 34%.

Fe wnaeth 52% o’r rhai oedd yn gymwys i bleidleisio fwrw eu pleidlais, yn ôl ystadegau’r Comisiwn Etholiadol.

Daw’r etholiad yn dilyn cyfnod treisgar yn hanes y wlad a rhai o’r digwyddiadau gwaethaf ers i’r arlywydd ddod i rym 35 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd sawl ymgeisydd eu haflonyddu yn ystod yr ymgyrch, a chafodd mwy na 50 o bobol eu lladd pan fu’n rhaid i’r lluoedd arfog ymyrryd i atal terfysgoedd ar ôl i Bobi Wine gael ei arestio.

Er gwaethaf buddugoliaeth yr arlywydd, collodd naw aelod o’i gabinet eu swyddi, gan gynnwys ei ddirprwy.

Gwrthwynebu’r canlyniad

Mae Bobi Wine yn hawlio mai fe enillodd yr etholiad ac mae’n bygwth dwyn achos gerbron y Goruchaf Lys tros yr helynt.

Yn fuan wedi iddo fygwth cyfraith, aeth y lluoedd arfog i’w gartref, meddai.

Ond mae’r lluoedd arfog yn gwadu hynny.

Mae Comisiwn Etholiadol Wganda yn galw arno i brofi’r hyn mae’n ei awgrymu am ganlyniad yr etholiad.

Yn ystod y broses bleidleisio, cafodd sawl goruchwylydd annibynnol eu harestio a chafodd swyddogion o’r Unol Daleithiau eu gwahardd rhag mynd yno i gwblhau’r gwaith.

Cafodd cais gan yr Undeb Ewropeaidd i gwblhau’r gwaith ei wrthod hefyd.