Mae 60 o ffoaduriaid wedi cael eu hatal rhag croesi’r Sianel mewn dau ddigwyddiad heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 16).
Cafodd 36 eu hatal rhag awdurdodau Prydain, a 27 gan awdurdodau Ffrainc.
Fe wnaeth cyfanswm o 8,417 o bobol groesi’r Sianel y llynedd.
Yn ôl Chris Philp, un o weinidogion San Steffan, mae’r teithiau’n rhai sy’n cael eu “hwyluso’n anghyfreithlon”, ac fe ddylai ffoaduriaid fod yn hawlio lloches yn y wlad gyntaf maen nhw’n dod iddi.
Mae’n dweud ymhellach fod mewnfudo anghyfreithlon yn “broblem annerbyniol”, ac y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i ddychwelyd pobol na ddylai fod yng ngwledydd Prydain.
Mae 134 o bobol wedi cael eu hatal gan yr awdurdodau yr wythnos hon, yn ôl llefarydd, sy’n dweud bod gostyngiad o 70% ers mis Medi yn nifer y teithiau ar draws y Sianel wrth i’r awdurdodau gymryd camau ar draethau Ffrainc.