Mae Llafur yr Alban yn dweud y bydd eu harweinydd newydd yn cael ei ethol erbyn diwedd mis nesaf.

Mae’r blaid yn chwilio am olynydd i Richard Leonard.

Mae’r amserlen ar gyfer unrhyw ras arweinyddol wedi’i chytuno gan y blaid, lai na phedwar mis cyn etholiadau Holyrood.

Bydd rhaid i unrhyw ymgeiswyr ddatgan eu bwriad i sefyll cyn canol nos yfory (nos Sul, Ionawr 17), a bydd angen cefnogaeth o leiaf bedwar o aelodau seneddol Albanaidd y blaid arnyn nhw erbyn canol dydd ar ddydd Mawrth (Ionawr 19).

Bydd modd i aelodau ac aelodau cysylltiol y blaid fwrw eu pleidlais o ddydd Mawrth, Chwefror 9 tan ddydd Gwener, Chwefror 26.

Caiff enw’r arweinydd newydd ei gyhoeddi ar ddydd Sadwrn, Chwefror 27.