Mae Syr Keir Starmer yn dweud ei fod yn gobeithio adeiladu perthynas bositif â Joe Biden, fydd yn dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ddydd Mercher (Ionawr 20).
Dywed arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan ei fod yn “wrth-Trump” ond o blaid yr Unol Daleithiau.
Daw sylwadau Starmer wrth annerch Cymdeithas Fabian, lle cyhuddodd e Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o fod â pherthynas rhy agos â Donald Trump.
Dywedodd fod Johnson “wedi closio at bobol sydd heb les Prydain yn eu calonnau” ac wedi torri cyfreithiau rhyngwladol wrth geisio creu delwedd mai fe yw “Trump Prydain”.
Perthynas bosib
Wrth drafod sut allai perthynas rhwng Llywodraeth Lafur Prydain a gweinyddiaeth Joe Biden edrych, dywed Syr Keir Starmer y byddai’n ceisio bod yn “rym moesol ar gyfer daioni yn y byd” ar ôl “degawd o gilio byd-eang” o dan arweiniad y Ceidwadwyr.
Fe wnaeth e frolio gwaith Tony Blair a Gordon Brown, dau gyn-brif weinidog Llafur, gan annog Boris Johnson i fanteisio ar gynnal uwchgynhadledd G7 yn yr haf i ddod â gwledydd y byd ynghyd ar ôl y coronafeirws.
“Mae angen i Brydain achub ar y cyfle hwn i arwain yn y byd eto, fel y gwnaeth Blair a Brown o ran tlodi byd-eang a’r argyfwng ariannol, dyna beth all Prydain ei gyflawni,” meddai.
Dywedodd ei fod yn “optimistaidd eithriadol” o fagu perthynas dda â Joe Biden a’i weinyddiaeth, gan ddadlau bod Prydain ar ei gorau wrth weithredu fel “pont rhwng yr Unol Daleithiau a gweddill Ewrop”.
Trosglwyddo grym
“Dydy hwn ddim yn drosglwyddiad grym arferol o un arlywydd i’r llall,” meddai am yr helynt sydd wedi bod wrth i Donald Trump barhau i wfftio canlyniad yr etholiad arlywyddol ac annog ei gefnogwyr i weithredu, gan arwain at y golygfeydd treisgar yn y Capitol yn Washington yn ddiweddar.
“Mae’r darluniau ar ein teledu dros yr wythnosau diwethaf yn gwneud hynny’n glir.
“Mae’r arlywydd sydd ar fin gadael yng nghanol cael ei uchelgyuddo; ei gyhuddo o annog trais, dim llai.
“Ac mae’r Unol Daleithiau’n fwy rhanedig nag ar unrhyw adeg arall y gallaf ei chofio.
“Yng nghanol hynny i gyd, dyma eiliad o optimistiaeth enfawr.
“O obaith yn gorchfygu casineb.
“A gall fod yn drobwynt hefyd.
“Nid dim ond yn America ond hefyd i berthynas Prydain â’r Unol Daleithiau, ac i wleidyddiaeth fyd-eang.”