Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm yng Nghymru ar gyfer yr wythnos i ddod.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai hyd at saith modfedd o law gwympo.

Mae’r rhybudd mewn grym ym mhob sir, a’r disgwyl yw y gallai Cymru weld gwerth 48 awr o law yn cwympo yn ystod yr wythnos.

Daw’r rhybudd i rym o 6 o’r gloch nos Lun (Ionawr 18).

Gallai bywydau bod mewn perygl mewn ardaloedd lle mae llifogydd yn debygol, ac fe allai achosi difrod i gartrefi a busnesau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.