Mae un o weinidogion y Trysorlys yn cyhuddo Llywodraeth yr Alban o anwybyddu cymorth ariannol Covid-19 mewn ymgais i hawlio rhagor.

Mae Kate Forbes, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, yn galw ar y Trysorlys i ryddhau £21.3bn, a’r disgwyl yw y byddai’r Alban yn derbyn £1.7bn o’r swm hwnnw.

Ond mae Steve Barclay, sy’n gyfrifol am wariant cyhoeddus, yn dweud bod Llywodraeth yr Alban “yn parhau o’u gwirfodd i anwybyddu’r gefnogaeth enfawr” mae wedi’i chael gan y Trysorlys.

Ymhlith y gefnogaeth honno, meddai, mae cymorth cynllun ffyrlo a sicrwydd o £8.6bn o gyllid eleni.

At ei gilydd, meddai, mae hyn wedi diogelu 93,000 o swyddi yn yr Alban ac fe fydd yn cynnal rhagor o swyddi drwy gydol y gaeaf.

Mae’n dweud y bydd yr Alban yn derbyn mwy na £38bn fel rhan o Fformiwla Barnett yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny’n cyfateb i £129 y pen am bob £100 y pen mae Llywodraeth Prydain yn ei wario yn Lloegr ar faterion datganoledig yr Alban.

Galw am derfyn ar ansicrwydd

Yn ei llythyr at y Canghellor Rishi Sunak yr wythnos hon, galwodd Kate Forbes am ryddhau ar uwaith yr arian sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Covid-19 y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae’r amrywiolyn Covid newydd a thynhau’r cyfyngiadau o’r herwydd yn golygu bod angen rhagor o arian nawr i gynnig sicrwydd hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon ac i mewn i 2021-22,” meddai.

Fe wnaeth y Canghellor ddal tua £21.3bn yn ôl wrth gyhoeddi cymorth Covid-19 fis diwethaf, ac mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi derbyn £8.6bn i fynd i’r afael â’r feirws.

Ond daw’r alwad gan Kate Forbes ryw bythefnos cyn iddi gyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth yr Alban ar gyfer 2021-22 ar Ionawr 28.

Er ei bod hi’n croesawu’r arian sydd wedi dod i’r Alban eisoes, mae’n dweud bod “y galw’n parhau i fynd y tu hwnt i’r adnoddau sydd ar gael” a bod “anallu i fenthyg ar y marchnadoedd ariannol neu ddefnyddio arian cyfalaf sydd heb ei wario i fynd i’r afael ag anghenion brys yn ein gadael ni’n ddibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

“Mae amrywiolyn newydd y feirws a thynhau’r cyfyngiadau o’r herwydd yn golygu bod angen rhagor o gyllid nawr,” meddai.

“Dw i’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ryddhau ein cyfran ni o’r arian wrth gefn fel y gallwn ddarparu’r gefnogaeth fwyaf i fusnesau a’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod hanfodol hwn.”