Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio pobol am dwyll ariannol, gan ddweud na fyddai eu plismyn fyth yn galw a gofyn am arian gan aelodau o’r cyhoedd.
Mae’n dilyn sawl achos o dwyll sydd wedi’u hadrodd wrth yr heddlu yr wythnos hon, gydag unigolion yn honni mai plismyn oedden nhw.
Cafodd mwy na £26,000 ei ddwyn oddi ar gwpl yng Nghasnewydd, tra bod dynes 88 oed o Sir Fynwy wedi dioddef twyll gwerth £14,000.
Ar y ddau achlysur, roedd unigolion yn esgus mai plismyn o Swydd Hertford ac yn weithwyr yr Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol oedden nhw.
Mae hyn yn rhan o dwyll lle mae troseddwyr yn defnyddio sawl dull gwahanol o ddwyn arian, gan honni bod yna weithgarwch twyllodrus yn ymwneud â chyfrifon banc unigolion ac maen nhw’n cynnig dad-rhewi’r cyfrifon drwy drosglwyddo neu dynnu arian allan o gyfrifon.
Yn aml, bydd ail berson yn casglu arian o gartrefi dioddefwyr i’w “gadw’n ddiogel”, ac mae’r twyllwyr yn gofyn i’w dioddefwyr beidio â sôn wrth neb arall, gan gynnwys eu banciau, am yr hyn sydd wedi digwydd oherwydd bod “ymchwiliad ar y gweill”.
Mae dioddefwyr hefyd yn cael cais i ffonio 999 neu 101 i wirio bod yr alwad yn un ddilys, ond mae’r twyllwyr yn meddiannu llinellau ffôn ac yn ateb galwadau gan esgus bod yn blismyn.
Ymateb yr heddlu
“Alla i ddim pwysleisio digon pa mor soffistigedig a thrylwyr yw’r twyllwyr hyn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Louise Cruci.
“Mae ein neges yn glir – fydd yr heddlu, asiantaethau’r llywodraeth na’r banciau fyth yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol, manylion banc nac yn mynnu taliadau.
“Byddwn yn annog yr holl drigolion i rannu’r neges hon ac i godi ymwybyddiaeth o’r weithred dwyllodrus hon, yn enwedig â pherthnasau oedrannus neu aelodau mwyaf bregus y gymuned.”
Dylai unrhyw un â phryderon ffonio’r heddlu ar 101 neu 999.