Mae un o wyddonwyr pwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain yn dweud y byddai’n “anarferol” pe na bai ail amrywiolyn o’r coronafeirws eisoes wedi cyrraedd o Frasil.

Daw sylwadau’r Athro John Edmunds er gwaetha’r gwaharddiad teithio sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Prydain mewn perthynas â’r gwledydd lle gallai’r amrywiolyn fod.

Does dim sicrwydd eto fod yr ail amrywiolyn wedi cyrraedd gwledydd Prydain, er bod wyth achos o’r amrywiolyn cyntaf wedi’u cadarnhau.

Mae’r ail amrywiolyn wedi’i ddarganfod ym Manaus a Japan, ac mae Llywodraeth Prydain wedi gwahardd teithiau o Dde America, Portiwgal a Cape Verde yn ogystal â De Affrica.

Yn ogystal, bydd gwaharddiad ar deithio heb gwarantîn yn dod i rym ddydd Llun (Ionawr 18) a bydd gofyn i deithwyr hunanynysu am ddeng niwrnod ar ôl cyrraedd gwledydd Prydain, neu gael canlyniad negyddol ar ôl prawf bum niwrnod ar ôl dod i wledydd Prydain.

Ymateb

“Yn nhermau’r [amrywiolyn] o Dde Affrica, roedden ni wedi cael achosion wedi’u mewnforio eisoes erbyn i ni roi cyfyngiadau ychwanegol yn eu lle ar gyfer teithwyr o Dde Affrica,” meddai’r Athro John Edmunds wrth raglen Today ar Radio 4.

“Ar gyfer yr un o Frasil… dw i ddim yn meddwl bod tystiolaeth ein bod ni wedi mewnforio achosion o’r amrywiolyn Manaus, hyd y gwn i beth bynnag, ond mae’n debygol fod hwnnw gyda ni, a bod yn gwbl onest.

“Rydyn ni’n un o’r gwledydd â’r cysylltiadau mwyaf yn y byd felly byddwn i’n ei chael hi’n anarferol pe na baen ni wedi mewnforio rhai achosion i’r Deyrnas Unedig.”

Llafur yn beirniadu’r Ceidwadwyr

Mae Llafur wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o ymateb yn rhy hwyr i’r amrywiolyn newydd, gan ddweud bod y cyhoeddiad am waharddiad teithio wedi dod yn rhy hwyr ac y gallai cyhoeddiad cynt fod wedi atal sawl amrywiolyn rhag cyrraedd gwledydd Prydain.

Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref Llafur ac Aelod Seneddol Torfaen, yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno “cynllun cynhwysfawr” i fynd i’r afael â’r sefyllfa mewn modd “strategol”.

Brechlynnau

Yn ôl yr Athro Andrew Pollard, cyfarwyddwr y criw sy’n datblygu brechlyn Rhydychen, dylai brechlynnau allu gwarchod pobol rhag amrywolion newydd.

Mae’n dweud bod modd eu hadnabod yn gynnar a datblygu brechlynnau i’w goresgyn “yn gyflym iawn”.

Mae mwy na 3.2m o bobol wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19 yng ngwledydd Prydain, ac mae Llywodraeth Prydain yn gobeithio brechu 15m o’r bobol fwyaf bregus erbyn canol mis Chwefror.

Ond yn y cyfamser, mae’r Athro John Edmunds yn rhybuddio rhag codi’r cyfyngiadau sydd yn eu lle, gan ddweud y byddai eu codi’n rhy gynnar yn “drychinebus” ac yn rhoi “pwysau eithriadol” ar y Gwasanaeth Iechyd.