Mae cwmni Shearwater Energy yn datblygu adweithydd a phrosiect ynni hybrid yn y gogledd.

Mae’r cwmni eisoes wedi dewis technoleg SMR sy’n cael ei datblygu gan NuScale, gan lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r cwmni Americanaidd i symud y prosiect yn ei flaen.

Byddai’r prosiect yn darparu 3 GWe o ynni di-garbon yn ogystal â mwy na 3,000,000kg o hydrogen gwyrdd y flwyddyn ar gyfer sector trafnidiaeth gwledydd Prydain.

Mae’r cwmni eisoes wedi cyflwyno cynllun i Lywodraeth Prydain ac i lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn unol â’r memorandwm o ddealltwriaeth, bydd Shearwater a NuScale yn archwilio’r cyfleodd sydd ar gael i gynhyrchu ynni niwclear yn seiliedig ar dechnoleg SMR, ynni gwynt a hydrogen, ac mae disgwyl i safle Wylfa chwarae rôl allweddol yn y prosiect.

Yn ôl asesiad NuScale, gallai mwy na 75% o gynnyrch safle’r cwmni darddu o’r tu fewn i wledydd Prydain.

Cynllun ynni

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu capasiti ynni gwynt erbyn 2030 ac i fuddsoddi mewn SMR er mwyn bodloni gofynion allyriadau carbon erbyn 2050.

Yn ôl Shearwater, gallai system ar y cyd â NuScale ddarparu ynni dibynadwy i oresgyn unrhyw broblemau o ran y grid, a bydd ynni hydrogen gwyrdd yn cefnogi diwydiant, trafnidiaeth, cyflenwadau a chartrefi.