Mae mam Nora Quoirin, merch 15 oed o Lundain fu farw ar wyliau ym Malaysia, yn dweud bod yna gwestiynau i’w hateb o hyd ynghylch ei marwolaeth.

Mae hi’n mynnu bod “tystiolaeth gredadwy dros ben” i awgrymu bod ei merch wedi cael ei chipio yn y wlad.

Cafwyd hyd i’w chorff naw niwrnod wedi iddi fynd ar goll o safle gwyliau fis Awst 2019.

Yn dilyn cwest, daeth crwner ym Malaysia i’r casgliad iddi farw drwy ddamwain, ac nad oedd unrhyw drosedd wedi’i chyflawni a neb arall ynghlwm wrth ei diflaniad.

Ond mae’r teulu’n mynnu bod ei chwest yn “anghyflawn”.

Dywed y teulu fod y cwest yn eu gwneud nhw’n fwy sicr fod eu merch wedi cael ei chipio, ac maen nhw’n mynnu bod ei chyflwr iechyd yn golygu na fyddai hi wedi cerdded i ffwrdd o’i gwirfodd ei hun.

Roedd hi’n cael anhawster cerdded ac roedd ganddi anableddau dysgu.

Roedd y teulu’n aros ar safle ger Seremban, ryw 40 milltir o’r brifddinas Kuala Lumpur pan aeth eu merch ar goll y diwrnod ar ôl iddyn nhw gyrraedd y wlad.

Cafwyd hyd i’w chorff noeth ryw 1.6 milltir o’r safle.

Mae disgwyl i’r teulu fynd at yr Uchel Lys i ofyn am ymchwiliad o’r newydd.