Mae Lesley Griffiths wedi ysgrifennu at George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd San Steffan, i fynegi pryder am ddyfodol pysgodfeydd Cymru yn sgil Brexit.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru, mae’r pysgodfeydd yn wynebu “sefyllfa ddifrifol” ac mae hi’n galw am gymorth ariannol brys ar gyfer pysgotwyr, busnesau diwylliant y dŵr, proseswyr ac allforwyr sy’n wynebu colledion difrifol o ganlyniad i effaith Brexit ar fasnachu.

Mae’n dweud bod yr ansicrwydd yn cael “effath gatastroffig” ar y sector bwyd y môr, a bod y sefyllfa “wedi gwaethygu’n gyflym ers diwedd y cyfnod pontio” a’i bod yn “hanfodol bwysig” fod George Eustace yn deall y sefyllfa.

Pryderon

Mae hi’n dweud bod allforwyr yn wynebu problemau wrth geisio allforio’u cynnyrch i Ewrop ers i’r trefniadau masnach newydd ddod i rym, gan gynnwys cryn oedi wrth allforio.

Ymhlith y problemau eraill mae cynnyrch o werth uchel yn cael ei ddifetha, gan arwain at brisiau marchnad gwael oherwydd diffyg galw am y cynnyrch hwnnw wedyn.

Mewn adroddiad gan Defro a dadansoddwyr ar Ionawr 14, meddai, roedd nifer y pysgod a gafodd eu dal wedi gostwng o 72-98% ar draws y sector yng Nghymru.

Ac mae hi’n rhybuddio y gallai marchnadoedd tramor ddewis peidio prynu pysgod o Gymru o ganlyniad i hynny, gan droi eu gorwelion at y farchnad dramor, sefyllfa sydd wedi’i gwaethygu o ganlyniad i gau lletygarwch o ganlyniad i’r coronafeirws.

“Ar ôl gwrthod estyniad i’r cyfnod pontio, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi gadael amser annigonol i’r diwydiant gael deall y berthynas newydd sydd wedi’i chytuno â’r Undeb Ewropeaidd ac i gyflwyno arferion busnes newydd,” meddai.

“Mae’n glir fod busnesau, yn syml iawn, yn ei chael hi’n anodd deall a bodloni’r gofynion newydd; dydy busnesau sydd wedi paratoi’n dda ddim hyd yn oed wedi gallu allforio’n effeithiol ers dechrau’r flwyddyn.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd cyfrifoldeb am fethiannau’r systemau a’r prosesau hyn a’r effaith maen nhw’n eu cael ar fasnachwyr ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’r brys yn amlwg ac mae angen gweithredu nawr.”

Wrth nodi bod y prif weinidog Boris Johnson yn “deall rhwystredigaeth y gymuned bysgota” pan aeth gerbron pwyllgor San Steffan ddydd Mercher (Ionawr 13), mae Lesley Griffiths yn galw am iawndal i fusnesau sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan Brexit ac am ragor o wybodaeth am £100m sydd ar gael i gefnogi’r diwydiant a chymunedau pysgota.