Mae cyn-ddisgybl a gamdrinwyd yn rhywiol gan gyn athro yn Ysgol Rhydfelen wedi dweud sut y byddai ei galon “yn suddo” pan arferai ei alw i’w swyddfa.

Mewn rhaglen ar S4C nos Fercher, John Owen: Cadw Cyfrinach bydd y cyn-ddisgybl i John Owen yn rhannu ei brofiadau a’r effaith a gafodd blynyddoedd o gamdrin ar  ddisgyblion yn Ysgol Rhydfelen rhwng 1977 a 1992.

Dywed y dioddefwr, nad oes bosib i’w enwi cyn y darllediad: “Roedd e’n galw fi draw i’w swyddfa i drafod ryw sgript neu speech ro’n i’n gweithio arno. Roedd e’n cloi y drws a thynnu zip fy nhrowsus i lawr. Roedd fy nghalon i’n suddo achos ro’n i’n gwybod beth oedd yn dod nesa.”

“Fe wnaeth John Owen ddechrau groomio fi yn ifanc iawn wrth i fi ddechrau yn Ysgol Rhydfelen.  Do’n i ddim yn gwybod pa mor sinistr oedd y trap o’n i ynddo yn mynd i droi. Ro’n i’n joio perfformio, canu, adrodd a cystadlu – fi’n cofio meddwl reit – I must get him to notice me. Roedd e’n foi hynod o charismatic a roeddet ti eisiau iddo fe dy glodfori di.“ meddai

Roedd yr ysgol yn cael ei adnabod ei sioeau cerdd.

‘Maniwpiwleiddio’

Meddai: “Roedden ni’n gweithio’n galed ar y sioeau yna. Roedd John Owen wastad yn mynnu teyrngarwch gennych chi. Os nad o’ch chi 100% gyda fe – ro’ch chi yn erbyn e a chi oedd y gelyn. Dyna un o’r ffyrdd roedd e’n maniwpiwleiddio ni. Oedd e’n gallu helpu fi gyda beth o’n i moyn yn fy mywyd ac roedd rhaid i fi wneud y fargen yma gyda’r diafol.”

“A pan ddechreuodd yr holl gamdrin rhywiol ro’n i’n switcho off a trio rhoi fy hun yn rhywle arall.”

Er ei fod erbyn hyn yn casáu John Owen am yr hyn a wnaeth iddo, mae’n cyfaddef fod na ochr hoffus i Owen.

“Mi oedd e’n ddyn oedd yn rhoi llwyth o gyngor i fi, oedd na ochr addfwyn a charedig iawn iddo fe ac roedd e’n gallu tynnu pethe gwych allan ohonai. “

“Yn emosiynol, wi dal yn ddig gyda fe. Wi’n beio fe am anafu fi, ond hefyd ro’n i’n gallu neud esgusodion drosto fe a gweld e fel victim.

Cam-drin

Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar gyn ddisgyblion. Fe wnaeth hynny esgor ar ymchwiliad Clywch gan Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru, yn 2004.

Mae’r adroddiad yn nodi fod Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae’n nodi hefyd fod y dystiolaeth wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pob tebyg, hefyd gam-drin disgyblion yn ei ofal yn rhywiol dros nifer o flynyddoedd.

Bu John Owen hefyd yn sgriptio a chynhyrchu cyfres ddrama i bobl ifanc Pam Fi Duw i S4C rhwng 1997 a 2002.

Mae’r rhaglen yn cyfweld ag actorion Pam Fi Duw a’r newyddiadurwr Eifion Glyn, fu’n gohebu ar y stori ac yn ymchwilio i hanes John Owen..

A hithau bellach bron yn ugain mlynedd ers i John Owen ladd ei hun mewn carafán ym Mhorthcawl wedi iddo beidio ymddangos i sefyll ei brawf yn Llys y Goron Caerdydd, mae’r creithiau dal yn fyw ym meddyliau’r dioddefwyr.

“Y noson glywon ni fod John Owen wedi lladd ei hun, fe aethon ni gyd am ddrinc. O’r diwedd, roedd y cyfan drosodd.“