Mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o fod “ar eu gorau wrth gamarwain a manipiwleiddio” ar ôl iddyn nhw addo “torri TAW i 5% ar gyfer y diwydiant twristiaeth i alluogi’r sector i adfer”.

Mae’r blaid yn dweud ers tro y dylid ailagor y diwydiant yng Nghymru eto wrth iddyn nhw barhau i frwydro yn erbyn cyfyngiadau clo Llywodraeth Lafur Cymru.

Ond dydy’r Dreth Ar Werth (TAW) ddim yn faes sydd wedi’i ddatganoli i Gymru ac felly, does gan y Ceidwadwyr Cymreig mo’r hawl i amrywio’r dreth.

Fe fu’n rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig gyfadde’n ddiweddarach nad yw’r toriad maen nhw’n sôn amdano’n doriad i’r Dreth Ar Werth.

‘Y lefel isaf o lecsiyna anghywir’

“Mae hyn yn profi bod y Ceidwadwyr yn ôl ar eu gorau wrth gamarwain a manipiwleiddio,” meddai Liz Saville Roberts, sy’n arwain ymgyrch etholiadol Plaid Cymru.

“Mewn gwirionedd, fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn torri TAW o gwbl yng Nghymru pe baen nhw’n cael eu hethol fel y Llywodraeth nesaf oherwydd allan nhw ddim,” meddai.

“Mae eu credoau cul mai San Steffan sy’n ein gwasanaethu ni orau wedi gofalu am hynny.

“Pe baen nhw o ddifri am helpu busnesau twristiaeth Cymreig, byddai’r llywodraeth Geidwadol yn ariannu toriad TAW hirdymor drwy Drysorlys y Deyrnas Unedig.

“Yn hytrach, mae Andrew RT Davies wedi sancsiynu’r lefel isaf o lecsiyna anghywir.

“Bydd busnesau’n gweld drwy’r addewid gwag hwn sy’n cadarnhau unwaith eto pam fod y Blaid Dorïaidd a’u harfer o fod yn economaidd â’r gwirionedd yn anaddas i fod yn agos at fod mewn grym yng Nghymru.”