Mae digwyddiadau wedi’u cynnal i gofio Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, 105 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Arweiniodd yr Arlywydd Michael D Higgins y prif ddigwyddiad o’i gartref swyddogol, Aras an Uachtarain.
Cafodd digwyddiad arall ei gynnal ger Swyddfa’r Post ar Stryd O’Connell yn Nulyn, un o brif leoliadau’r gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Brydeinig yn 1916.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bu’n rhaid addasu’r digwyddiadau yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Fe wnaeth yr arlywydd ganu’r gloch heddwch cyn gosod torch o dan 16 o goed bedw a gafodd eu plannu yn 2019 er cof am y rhai a gafodd eu lladd.
Roedd munud o dawelwch wedyn i gofio’r rhai a gafodd eu lladd bryd hynny a thros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig.
Roedd y Taoiseach, Micheal Martin, yn y digwyddiad ger Swyddfa’r Post.
Enillodd 26 o siroedd Iwerddon annibyniaeth yn 1922, gan ddod yn Weriniaeth yn 1949, tra bo chwe sir y gogledd yn dal yn rhan o’r Deyrnas Unedig.