Mae pobyddion yng Nghatalwnia yn poeni y bydd lleihau maint eu cacennau Pasg yn sgil cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar eu gwerthiant eleni.

Mae ‘Mones de Pasqua’ (cacennau’r Pasg; ‘mona de pasqua’ yw cacen y Pasg) yn un o draddodiadau mawr y Pasg yn y wlad, sef cacen sbwnj sydd wedi’i haddurno â hufen a chnau gydag wyau siocled neu ffigurau chwedlonol fel Harry Potter neu Yoda ar ei phen.

Yn ôl traddodiad y wlad, arferai tadau bedydd roi’r cacennau i’w plant bedydd yn ystod cynulliadau teuluol mawr adeg y Pasg.

Mae pobyddion yn gobeithio gwerthu tua 700,000 o’r cacennau – yn debyg i ffigurau 2019 – ond maen nhw’n disgwyl i’w helw ostwng 15-20% oherwydd eu maint.

Gyda’r cyfyngiadau yn y wlad ar hyn o bryd yn nodi mai uchafswm o chwech o bobol sy’n cael dod ynghyd, mae pobyddion wedi gorfod addasu’r cacennau ar gyfer llai o bobol, ac maen nhw’n poeni y bydd hyn yn effeithio ar eu gwerthiant a’u helw.

“Roedd y llynedd yn rhyfedd, yn llawn pryderon ac ansicrwydd,” meddai Elies Miró, llywydd Masnach Bobi Catalwnia wrth wefan y Catalan News.

“Gobeithio y gallwn ni droi dalen newydd ac er gwaetha’r cyfyngiadau a’r swigod cymdeithasol fydd yn gwneud prydau teuluol yn llai, gobeithio y gallwn ni fwynhau’r Pasg o hyd.”