Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 3) yn dilyn digwyddiad yn ardal Bae Langland ger Abertawe.

Cafodd ei anafu’n ddifrifol ar ôl cwympo oddi ar glogwyn.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, mae’r ardal yn boblogaidd ymhlith pobol sy’n taflu eu hunain i’r môr oddi ar glogwynni – gweithred sy’n cael ei alw’n ‘tombstoning’.

Manylion

Cafodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau eu galw i ardal rhwng Langland a Limeslade am 12.56yp.

Roedd y dyn wedi torri sawl asgwrn ac wedi cael nifer o anafiadau difrifol.

Aeth hofrennydd Gwylwyr y Glannau a’r Ambiwlans Awyr i’r digwyddiad, ynghyd â thîm achub Gwylwyr y Glannau’r Mwmbwls.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond does dim rhagor o wybodaeth am ei gyflwr ar hyn o bryd.