Mae ymgeisydd yr SNP ar gyfer Holyrood wedi cael ei beirniadu am sylwadau wnaeth hi ar Twitter yn 2017 yn cymharu gweithred Theresa May ag Adolf Hitler.

Roedd Stephanie Callaghan yn trafod penderfyniad y prif weinidog ar y pryd i wrthod rhoi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn dweud bod y sylwadau’n “warthus”.

Mae Callaghan yn sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Uddingston a Bellshill wrth i Richard Lyle ymddeol o’r sedd.

“Mae propaganda Torïaidd yn cynnig ffenest i gynlluniau’r dyfodol: sathru ar ddemocratiaeth,” meddai yn ei neges, sydd bellach wedi cael ei dileu.

Yn ail ran ei neges, mae’n dweud bod “Hitler wedi gwneud yr un fath: wedi gosod yr olygfa ar gyfer yr Holocost Iddewig i gadw gwrthwynebwyr i lawr”.

Beirniadaeth

Mae’r Ymgyrch yn erbyn Gwrth-Semitiaeth yn dweud nad oes “cymhariaeth rhwng y tensiynau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig heddiw a dinistrio systematig ar ddemocratiaeth yr Almaen Natsïaidd a llofruddio chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig”.

Maen nhw’n dweud bod “rhaid i wleidyddion osod esiampl” ac nid “sgorio pwyntiau gwleidyddol”, a bod y fath sylwadau’n “warthus a chlwyfus, ac yn dangos cryn anwybodaeth”.

Mae Annie Wells, Aelod Seneddol Albanaidd y Ceidwadwyr, yn dweud ei bod “y tu hwnt i amgyffred” fod Stephanie Callaghan yn dal yn ymgeisydd, ac nad ymddiheuriad yn ddigon.

Mae Callaghan wedi ymddiheuro gan ddweud bod “y geiriau yn yr hen drydariad hwn wedi’u dewis yn wael”.