Mae disgwyl i’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban ennill 79 allan o 129 o seddi yn etholiadau Holyrood ym mis Mai, yn ôl pôl piniwn Panelbase ar ran y Sunday Times.

Y gred yw y gallai’r SNP ennill 65 o seddi, Alba chwe sedd, a’r Blaid Werdd wyth o seddi.

Yn ôl dadansoddiad Syr John Curtice o Brifysgol Ystrad Clud, bydd gan y Ceidwadwyr 24 o seddi, Llafur 20 a’r Democratiaid Rhyddfrydol bump o seddi.

Mae’n bosib y gallai Alliance for Unity, plaid George Galloway, ennill un sedd.

Cafodd 1,009 o oedolion eu holi gan Panelbase rhwng Mawrth 30 ac Ebrill 1.

Dyma’r ail bôl sydd wedi’i gynnal ers i Alba, plaid newydd Alex Salmond, gael ei sefydlu.

Canrannau

Ar gyfer y bleidlais etholaethol, 49% oedd siâr yr SNP, 22% i’r Ceidwadwyr, 20% i Lafur a 6% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar gyfer y bleidlais ranbarthol, 39% oedd siâr yr SNP, 21% i’r Ceidwadwyr, 17% i Lafur, 8% i’r Blaid Werdd a 5% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd gan Alba 6% yn y bleidlais ranbarthol, ac All for Unity 4%.

Mae Syr John Curtice yn dweud y gallai Alba sicrhau “perfformiad clodwiw” ond y gallen nhw adael yr etholiad “yn waglaw”.

Er bod Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn galw ar bobol i bleidleisio dros yr SNP ar gyfer yr etholaethau a’r rhanbarthau, mae 9% o’r rhai sy’n debygol o gefnogi’r SNP yn yr etholaeth yn debygol hefyd o gefnogi Alba yn y bleidlais ranbarthol, gyda 10% yn barod i gefnogi’r Blaid Werdd yn rhanbarthol.

Alba ac ail refferendwm

Yn ôl Syr John Curtice, mae Alba yn denu pobol sydd am weld amserlen ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth cyn gynted â phosib.

“Mae cynifer â 70% o gefnogwyr Alba eisiau refferendwm o fewn 12 mis o gymharu â 48% o bleidleiswyr rhanbarthol yr SNP a 35% o bleidleiswyr y Blaid Werdd,” meddai.

“Tra bod 93% o’r rheiny sy’n cefnogi Alba yn credu bod [Alex] Salmond yn ‘berson ffit i sefyll mewn etholiad’, dim ond 13% o gefnogwyr yr SNP a 15% o gefnogwyr y Blaid Werdd sy’n rhannu’r un farn.

“Mae personoliaeth Salmond wedi ei alluogi i greu plaid newydd allan o ddim byd.

“Fodd bynnag, fe allai gyfyngu ar yr hyn mae’r blaid yn gobeithio’i gyflawni erbyn hyn.”