Mae disgwyl i Boris Johnson amlinellu ei gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedau brechu Covid-19 er mwyn galluogi grwpiau o bobol i ddod ynghyd ac i ddigwyddiadau dan do gael eu cynnal yn ddiogel yn Lloegr.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Prydain geisio llacio’r cyfyngiadau Covid-19 ymhellach drwy alluogi caeau chwaraeon a chlybiau nos i ailagor heb orfod dilyn camau cadw pellter.

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi yfory (dydd Llun, Ebrill 5).

Er gwaetha’r cyhoeddiad, mae aelodau seneddol yn awyddus i graffu ar y cynlluniau er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n rhy llym, gyda mwy na 40 o aelodau seneddol Ceidwadol eisoes yn datgan eu gwrthwynebiad i drwyddedau.

Bydd brechlynnau, profion negyddol ac imiwnedd naturiol unigolion chwe mis ar ôl prawf positif yn cael eu hystyried wrth benderfynu rhoi trwydded i rywun.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd wrthi’n ceisio dod o hyd i ffordd ddigidol a ffordd amgen y gall pobol ddangos eu statws Covid.

Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau torfol megis gwyliau cerddorol, gemau chwaraeon a chlybiau nos.

Ond does dim disgwyl y bydd angen trwyddedau mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â thafarnau, bwytai a siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol.

Ac mae swyddogion wrthi’n ceisio penderfynu o dan ba amgylchiadau y bydd pobol yn cael eu heithrio o’r cynllun.

Digwyddiadau

Mae disgwyl i nifer o ddigwyddiadau gael eu defnyddio fel arbrofion ar gyfer y cynllun.

Yn eu plith mae noson gomedi yng nghlwb Hot Water yn Lerpwl, un o’r gemau pêl-droed yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr yn Wembley, Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield a ras yn Hatfield House.

Daw’r digwyddiad olaf ar ddiwrnod rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ar Fai 15.

Mae disgwyl i Boris Johnson amlinellu’r cyfyngiadau teithio diweddaraf ar Ebrill 12, a’r disgwyl yw na fydd modd i bobol deithio dramor tan Fai 17.

Bryd hynny, mae disgwyl system goleuadau traffig i benderfynu lefel y risg ar gyfer gwledydd gwahanol, a bydd hyn yn ystyried cyfres o ffactorau gan gynnwys brechlynnau, cyfraddau heintio, amrywiolion a data gwyddonol.

Fydd dim rhaid i bobol o wledydd ‘gwyrdd’ hunanynysu, ond bydd angen cynnal profion cyn ac ar ôl teithio.

Bydd ‘coch’ ac ‘oren’ yn golygu y bydd rhaid hunanynysu neu fynd i gwarantîn.

Bydd adolygiad o gadw pellter yn edrych ar ffyrdd y bydd modd i ffrindiau a theuluoedd ddod ynghyd, mwy o bobol ar drafnidiaeth gyhoeddus a mesurau cadw pellter yn y gweithle a lleoliadau eraill.