Annibyniaeth yw’r “unig ffordd” o amddiffyn Cymru rhag gormodedd gwaethaf San Steffan, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Dywed Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod y “llinell goch denau” o bwerau annigonol mae Llafur yn ei ffafrio yn torri.

Gan rybuddio bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “ailddyblu ei hymdrechion” i danseilio datganoli a “gorchuddio popeth yn Jac yr Undeb”, mae Adam Price yn rhybuddio pawb sy’n pryderu am y digwyddiadau hyn i bleidleisio dros lywodraeth o blaid annibyniaeth drwy gefnogi Plaid Cymru ar Fai 6.

Mae’n apelio yn benodol at aelodau Llafur sy’n cefnogi annibyniaeth, gan nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno llawer o’r polisïau y maen nhw’n eu ffafrio, megis ymestyn prydau ysgol am ddim, sicrhau cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a chymryd camau mwy radical i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi dod yn gliriach bod Llywodraeth y DU yn ailddyblu ei hymdrechion i danseilio datganoli a dileu Cymru oddi ar y map gwleidyddol,” meddai.

“Mae eu mynnu gorchuddio popeth gyda Jac yr Undeb yn amlygu’r panig a’r ansicrwydd sy’n cael ei ddal yn San Steffan wrth i’r mudiadau annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban gasglu momentwm.

“Mae llinell goch denau Llafur – y cyfuniad o bwerau annigonol ac amharodrwydd i herio llywodraeth Dorïaidd y DU – yn torri, gan adael Cymru ymhellach yn agored i ormodedd gwaethaf San Steffan.”

‘Beiddgar’

“Dyna pam mae ar Gymru angen llywodraeth o blaid annibyniaeth, yn llawer mwy beiddgar yn ei her i Lywodraeth y DU ac yn llawer gwell am guro’r drwm er lles gorau ein cenedl,” meddai wedyn.

“Gwyddom o brofiad yr Alban mai’r mwyaf y mae eich llywodraeth yn fodlon sefyll i fyny at Boris Johnson a’i Gabinet o anhrefn, y mwyaf y clywir eich llais.

“Anogaf unrhyw un sy’n rhannu’r pryder nad yw sarhad San Steffan yn erbyn Cymru ond yn dechrau, i bleidleisio dros lywodraeth o blaid annibyniaeth ar Fai 6ed drwy gefnogi Plaid Cymru.

“Gwn fod llawer o gefnogwyr Llafur yn teimlo’n rhwystredig ynghylch amharodrwydd arweinwyr eu plaid i gadw i fyny â’r ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru.

“Gallant fod yn hyderus y byddai llywodraeth Plaid Cymru nid yn unig yn cyflwyno’r refferendwm ar annibyniaeth Cymru y maent yn ei ddymuno felly, ond hefyd polisïau cymdeithasol radical – o ymestyn prydau ysgol am ddim i gyflog byw go iawn i weithwyr gofal i wneud llawer mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – i gyflawni’r weledigaeth o Gymru decach a gwyrddach yr ydym yn ei rhannu.

“Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb mewn trawsnewid, nid tincera. Rydym yn ddiamynedd i sicrhau newid gwirioneddol mewn amser real a byddwn yn gwneud hynny gyda pholisïau sydd wedi’u cynllunio i wneud iawn am y ddau ddegawd diwethaf o ddrifftio.

“Annibyniaeth yw’r unig ffordd o sicrhau bod dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.

“Os ydym am godi cyflogau, creu system drafnidiaeth sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gwella ein gwasanaethau cyhoeddus a diogelu ein hamgylchedd, rhaid inni dorri cysylltiadau ag undeb wleidyddol sydd wedi anwybyddu ein hanghenion a’n dal yn ôl ers canrifoedd, ac yn olaf rhyddhau potensial llawn Cymru.”