Mae undeb athrawon yr NASUWT wedi galw am ohirio cyflwyno y cwricwlwm addysg newydd yng Nghymru am nad oes digon o amser i baratoi.

Dywed yr undeb fod angen i athrawon gefnogi disgyblion drwy gyfnod pandemig Covid-19.

Fe allai cyflwyno’r cwrwcilwm o fewn yr amserlen wreiddiol beryglu ei lwyddiant, yn ôl aelodau Cymreig yr undeb yng nghynadledd undeb athrawon yr NASUWT heddiw (ddydd Llun)

Gyda phwysau “digynsail” y pandemig yn dal yn amlwg, mae angen mwy o amser i hyfforddi athrawon a pharatoi adnoddau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod diwygio’r cwricwlwm yn parhau’n flaenoriaeth.

Rheng flaen

Yn hytrach na phynciau penodol, bydd disgwyl i athrawon gyflwyno addysg mewn chwe maes dan y cwricwlwm newydd: Rhifedd, ieithoedd a llythrennedd, iechyd, dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg, celfyddydau.

Nid yw’r cynlluniau manwl wedi eu cyhoeddi eto.

Dywed Dr Patrick Roach, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb NASUWT: “Mae’n bwysig cael hyder athrawon, disgyblion a rhieni wrth gyflwyno’r newidiadau i’r cwricwlwm.

“Mae athrawon wedi bod ar y rheng flaen yn ystod pandemig Covid-19 yn delio gyda phwysau digynsail wrth geisio cefnogi disgyblion tra’n dysgu yn yr ysgol ac o bell.”

Mae rhai disgyblion wedi dychwelyd i’r dosbarth cyn y Pasg, ond fe fydd pob disgybl yn dysgu wyneb yn wyneb yn y dosbarth o Ebrill 12 ymlaen, wedi misoedd o ddysgu o bell.

Ychwanegodd Dr Roach: “Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau digon o amser i athrawon ar gyfer hyfforddi, ac adnoddau er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn rhedeg yn esmwyth.

Blaenoriaeth

“Fe wnawn ni gymryd pob cam pwysig er mwyn sicrhau bod gweinidogion yn clywed ac yn deall ein neges.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn glir bod diwygio’r cwricwlwm yn parhau’n flaenoriaeth a bod rhaid i hynny barhau.

“Mae’n cynllun parhad i gefnogi ysgolion wrth ymateb i Covid-19 yn rhannu yr un egwyddorion ac athroniaeth â’r cwricwlwm newydd i Gymru.

“Mae’r ddau yn cyd ochri fel bod modd i ysgolion gefnogi lles, gwybodaeth a sgiliau disgyblion.

“Rydym yn buddsoddi mwy nag erioed mewn staff dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach wrth iddyn nhw gyflwyno y cwricwlwm newydd yn 2022.”

Potensial

Ar ran Plaid Cymru dywedodd Sian Gwenllian: “Mae gan y cwricwlwm newydd botensial mawr ond ni fydd yn llwyddo heb fuddsoddiad ac adnoddau digonol.

“Rydym angen gwrando’n ofalus ar bryderon dilys athrawon, undebau a staff ysgol.

“Fe fyddai Plaid Cymru yn gostwng y pwysau ar athrawon drwy fuddsoddi mewn 4,500 o athrawon a chynorthwywyr dosbarth newydd – gan roi amser i ysgolion baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm.

“Mi fydd hwn yn gwbl ganolog i’n Cynllun Adfer Addysg wedi Covid.”

Dywed llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae’n hathrawon wedi ymdrechu i’r eithaf i gefnogi disgyblion drwy amseroedd anodd.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gohirio cyflwyno y cwricwlwm newydd tan fis Medi 2023.

“Byddai hynny yn helpu athrawon a disgyblion i ddal i fyny wedi iddynt golli blwyddyn a mwy o addysg – cyn gorfod wynebu’r her anferth o gyflwyno cwricwlwm newydd.”

Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dywedodd yr arweinydd Jane Dodds: “Bydd y cwricwlwm newydd yn rhan allweddol o’r llwybr adfer.

“Mae yna alw am newid a gyda’n gilydd dylen gydio yn y cyfle yma i gefnogi dysgwyr wrth i’r cwricwlwm gael ei gyflwyno yn 2022.”