Wrth i’r tymheredd ostwng a’r gwyntoedd oer hyrddio, mae eira wedi bod yn disgyn yn siroedd Conwy, Fflint a Dinbych y bore yma.

Bydd rhybudd melyn am eira a rhew yn dod i rym yng Nghymru yn ddiweddarach.

Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd yn dechrau am 10yh heno (nos Lun) ac yn parhau tan 10yb bore yfory (Mawrth_.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i’r gogledd a’r gorllewin, yn enwedig siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Môn, Penfro a Phowys.

Gall hyd at 4cm o eira ddisgyn mewn mannau, yn bennaf ar dir uchel.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd olygu oedi i deithwyr, a rhew ar y ffyrdd.