Mae Plaid Cymru yn gobeithio creu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru o’r enw Ynni Cymru.

Heddiw, bydd AoS Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn egluro sut y byddai Ynni Cymru – fyddai wedi’i leoli ar Ynys Môn yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS fod gan Gymru “botensial enfawr” mewn cynhyrchu trydan di-garbon, ac y byddai’r corff newydd yn arwain datblygiadau o’r fath, gan ddod â buddion i gymunedau lleol a Chymru gyfan.

Ychwanegodd ymgeisydd Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn comisiynu rhestr genedlaethol o botensial ynni gwyrdd – Atlas Ynni – i nodi prosiectau a datblygiadau newydd posibl.

Cyfoeth naturiol

Meddai: “Mae gan Gymru lawer iawn o gyfoeth naturiol ond mae angen i ni elwa ar y buddion hynny i gymunedau lleol, i Gymru ac i’n hamgylchedd.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru – Ynni Cymru – a fyddai’n rhoi mwy o reolaeth inni dros gynhyrchu trydan.

“Rwy’n falch iawn y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn lleoli Ynni Cymru ar Ynys Môn lle mae potensial enfawr heb ei gyffwrdd o ran adnoddau naturiol a lle byddai cymunedau lleol yn elwa o hwb economaidd datblygiad newydd sy’n dod i’r ynys.

“Byddai’n gyfrifol am fapio Atlas Ynni – rhestr genedlaethol o botensial ynni gwyrdd a fydd yn caniatáu inni nodi cyfleoedd i ddatblygu cwmnïau Cymru newydd a phrosiectau ynni cymunedol.

Ynni llanw

“Byddai ynni llanw, oddi ar ein harfordiroedd deheuol a gogleddol, gan gynnwys y prosiectau cyffrous oddi ar arfordir Ynys Môn, yn rhan fawr o hyn, yn ogystal â mapio potensial hydrogen gwyrdd a chynyddu cynhyrchiant gwynt ar y môr.

“Byddai llywodraeth Blaid hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn berchen yn rhannol ar bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd o leiaf.

“Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ond ymarferol a fydd yn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wrth greu swyddi medrus, â chyflog da fel rhan o adferiad economaidd cynaliadwy.”

Yr ymgeiswyr eraill fydd yn ymgeisio am sedd Ynys Môn yn yr Etholiad fydd: Sam Egelstaff – Llafur a Lyn Hudson – Ceidwadwyr.