Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw’n buddsoddi £1bn yn adferiad yr amgylchedd pe baen nhw’n ennill etholiad y Senedd fis nesaf.

Mae pecyn uchelgeisiol y blaid yn cynnwys addewid i fuddsoddi’r swm bob blwyddyn i fynd i’r afael ag argyfwng yr amgylchedd, adeiladu tai gwyrdd a chreu swyddi gwyrdd.

Mae Jane Dodds, arweinydd y blaid, wedi bod yn sôn am “ddyhead i atal a gwyrdroi dadfeiliad yr amgylchedd” fel un o brif flaenoriaethau’r blaid yn ystod tymor nesa’r Senedd.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gweld swyddi’n cael eu creu ac yn cynnig sefydlogrwydd i gadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt, gan alluogi busnesau i fuddsoddi mewn technoleg newydd gan ddiogelu eu dyfodol,” meddai.

“Er mwyn mynd i’r afael go iawn â’r problemau hyn, mae angen i ni feddwl yn fawr a gwneud buddsoddiad sylweddol ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y buddsoddiad £1bn hwn i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd yn gweld cartrefi gwyrdd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, a fydd yn torri biliau ac yn rhoi hwb i’n hadferiad economi gwyrdd.

“Bydd y record o fuddsoddiad yma hefyd yn gweld cynlluniau atal llifogydd, prosiectau ailgoedwigo ac ynni gwyrdd yn cael eu cyflwyno er mwyn bodloni ein dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol.”