Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Fonesig Cheryl Gillan AS, fu farw ar ôl salwch dros gyfnod hir.

Dywedodd Prif Weinidog y DU Boris Johnson ei fod yn “golled enfawr.”

Roedd hi’n 68 oed.

Roedd hi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd rhwng 2010 a 2012.

Bu’n AS dros Chesham ac Amersham ond fe’i ganed yng Nghaerdydd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Rwy’n drist iawn o glywed bod y Fonesig Cheryl Gillan AS wedi marw.

“Roedd Cheryl yn fodel o wasanaeth cyhoeddus ac roedd yn cael ei pharchu ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

“Roedd hi’n hynod falch o’i gwreiddiau Cymreig ac yn gwasanaethu gyda rhagoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol.

“Roedd Cheryl yn ffrind da i’r Ceidwadwyr Cymreig a bydd colled fawr ar ei ôl.

“Ar ran fy nghydweithwyr, rwy’n anfon ein cydymdeimlad at ei theulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.”