Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd, Newyddion S4C, heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6), ac mae’n cynnwys ap a gwefan newydd sbon.

Yn ogystal â chyhoeddi straeon gwreiddiol, bydd y gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, ac yn cyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C sydd wedi’i chynhyrchu gan BBC Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i wasanaeth newyddion Cymraeg gyhoeddi a churadu cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnig gwasanaeth newyddion cynhwysfawr mewn un lle.

“Mae cydweithio gyda  phartneriaid yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol,” meddai Ioan Pollard, Golygydd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C.

“Mae’n hollbwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i’r gwylwyr ar flaenau eu bysedd. Mae’r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.

“Rydyn ni wedi cynllunio’r ap fel bod modd cael newyddion o sawl ffynhonnell wahanol mewn un lle. A ninnau ynghanol cyfnod etholiadol a chyda gymaint o bwyslais ar iechyd a’r economi, mae’n sicr yn amser hynod arwyddocaol i lansio gwasanaeth newyddion newydd.“

‘Platfform newydd’

“Ry’n ni yn Golwg yn falch o fod yn rhan o’r fenter hon ac yn edrych ymlaen at weld cynnwys golwg360 yn cael ei rannu ar y platfform newydd,” meddai Garmon Ceiro, prif olygydd Golwg. “Ry’n ni wastad yn edrych am ffyrdd newydd o rannu’n cynnwys gyda’n cynulleidfa, ac ry’n ni’n dymuno pob hwyl i’r gwasanaeth newydd.”

Bydd Newyddion S4C yn craffu ar y pleidiau a’r gwleidyddion drwy gydol y cyfnod etholiadol. Bydd hefyd straeon am iechyd, amaeth, materion cyfoes, chwaraeon, a straeon lleol yn canolbwyntio ar bobl a’u cymunedau.

Mae S4C wedi penodi tîm o chwech o newyddiadurwyr i weithio ar y gwasanaeth newyddion newydd yn cynnwys golygydd a dirprwy olygyddion newyddion a phedwar newyddiadurwr digidol.