Mae Wyn y walrws wedi diflannu oddi ar arfordir Sir Benfro ar ôl cael ei “aflonyddu” gan dwristiaid “oedd yn torri rheolau Covid”.
Yn ôl y Welsh Marine Life Rescue, roedd hyn yn cynnwys rhywun a deithiodd, yn ôl un adroddiad, o Essex i Gymru dros Ŵyl y Banc.
Dywedodd Sefydlydd a Chydlynydd Welsh Marine Life Rescue Terry Leadbetter fod y walrws wedi’i “styrbio”, a’i fod yn “hunllef llwyr” ceisio cadw pobol draw.
Cafodd y walrws Arctig ei weld ar arfordir Sir Benfro bythefnos yn ôl, wedi iddo ddod draw o Iwerddon.
Mae lle i gredu mai dyma’r un walrws a gafodd ei weld ger Denmarc tua chanol Chwefror.
Cafodd yr RSPCA eu galw ato ar Fawrth 20, ac er eu bod nhw’n credu iddo ddychwelyd i’r môr, cafodd ei weld eto wedyn yn Ninbych-y-Pysgod.
“Rydym ni’n credu fod rhai pobol wedi bod yn torri rheolau Covid drwy groesi’r ffin o Loegr i weld yr anifail,” meddai’r Welsh Marine Life Rescue wrth ITV.
‘Hunllef’
“Dywedodd adroddiad fod rhywun wedi teithio’r holl ffordd o Essex, a bod nifer o bobol ddim yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.
“Roedd yn hunllef llwyr ceisio cadw pobol draw,” meddai Terry Leadbetter.
“Roedd yna bobol yn hedfan drones i geisio mynd yn agos ato, ac roedd pobol o fewn metrau at y walrws.”
Mae’r Welsh Marine Life Rescue yn rhybuddio pobol i gadw draw, ac yn atgoffa ymwelwyr nad oes posib gwybod beth fydd yr anifail yn ei wneud nesaf.
Dywedodd Terry Leadbetter fod y walrws yn “ymwybodol fod pobol yno, ac roedd yn amlwg wedi’i styrbio”.
“Rydym yn gwybod fod walrysau yn ymosod ar gychod, ac wedi lladd pobol, felly, fel gydag unrhyw anifail gwyllt arall, nid ydych chi eisiau mynd yn rhy agos ato fo, rhag ofn.
“Nid yw’n bosib gwybod beth fydden nhw’n ei wneud nesaf, ac nid ydych chi’n gwybod a ydyn nhw’n debygol o droi rownd ac ymosod ar rywun ai peidio.
“Gallai rhywun sy’n ymddwyn yn anghyfrifol gael ei frifo.”