Mae walrws Arctig wedi’i weld oddi ar arfordir Sir Benfro.

Cafodd yr RSPCA eu galw allan i wirio ei les.

Fe’i gwelwyd am y tro cyntaf wythnos yn gynharach ar greigiau yn Sir Kerry, Iwerddon, cyn iddo wneud ei ffordd drosodd i Gymru.

Dywedodd y swyddog achub anifeiliaid Ellie West: “Mae’n ymddangos bod y walrws yr Arctig hwn wedi swatio draw i Gymru ac yn gorffwys ar greigiau pan es i i wirio arno.

“Roedd yn gorffwys ac, er ei fod yn ymddangos ychydig danbwysau, diolch byth nid oedd yn arddangos unrhyw arwyddion o salwch nac anaf.

“Mae hwn yn olygfa eithriadol o brin ac nid yw’r anifeiliaid mawr, hardd hyn byth fel arfer yn mentro mor bell i’r de.

Chwilio am fwyd

“Mae’r walrws ifanc hwn wedi teithio i lawr fel hyn i chwilio am fwyd.”

Roedd yn ymddangos bod gan y walrws ychydig o olion ei fod wedi bod mewn cwffas ond roedd yn ymddangos mewn cyflwr da ar y cyfan ac yn medru nofio’n dda.

Dywedodd Geoff Edmond, cydlynydd bywyd gwyllt yr RSPCA: “Roedd hwn yn ddiwrnod nodedig i dîm bywyd gwyllt yr RSPCA.

“Er ein bod wedi bod yn achub anifeiliaid ac yn ymateb i alwadau lles ers bron i 200 mlynedd, rwy’n credu mai dyma ein galwad cyntaf erioed at walrws.”

Ychwanegodd Ms West: “Rydym yn falch ei fod yn ymddangos yn iach ond, os bydd unrhyw un yn ei weld  . . . a bod pryderon am ei les, byddem yn gofyn iddynt ffonio ein llinell gymorth frys ar 0300 1234 999.

“Byddem hefyd yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd a allai ei weld ar y creigiau i gadw eu pellter a peidio â mynd ato na’i ddifetha gan fod angen iddo orffwys a chadw ei egni.

“Yn sicr fydda i byth yn anghofio’r diwrnod hwn, a dweud y gwir mae’n dal i suddo mewn fy mod i wedi bod yn monitro walrws ar arfordir Sir Benfro, mae wedi bod yn hollol anhygoel.”