Cafodd 196 o achosion positif eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 207,842.

Y gyfradd yng Nghymru dros gyfnod o saith diwrnod yw 42 ym mhob 100,000 o bobl.

Cafodd chwech yn rhagor o farwolaethau yng gysylltiedig gyda coronafeirws eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan fynd â’r cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 5,488.

 

Mae 1,258,769 bellach wedi derbyn eu pigiad cyntaf o’r brechlyn – cynnydd o 26,939 ar y diwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 338,959 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 9,429.

Covid Caergybi: Profion i bawb fel ymateb i’r cynnydd mewn achosion

Sefyllfa ar Ynys Gybi yn parhau’n “ddifrifol iawn”