Bydd cynllun astudio rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr yn dechrau’r flwyddyn nesa, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad gyda phartneriaid ym maes addysg ac ieuenctid fydd yn datblygu’r cynllun i’w lansio yn 2022.
Penderfynodd llywodraeth y DU i beidio â pharhau gyda chynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit a datblygu ei gynllun ei hun sef Turing.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd eu cynllun newydd nhw yn “llenwi’r bylchau mae Turing yn ei adael”.
Tra bod £110m wedi ei neilltuo ar gyfer blwyddyn gyntaf Turing, mae llywodraeth Cymru yn neilltuo £65m tan 2026.
Yn ôl y llywodraeth fe fydd myfyrwyr a staff prifysgolion, addysg bellach, addysg oedolion ac ysgolion yn gallu “elwa o gyfnewid rhyngwladol mewn modd tebyg i’r cyfleoedd ddaeth o Erasmus, nid ddim ond yn Ewrop ond y tu hwnt,” meddai llefarydd
Proffil rhyngwladol Cymru
Nod y cynllun newydd yw caniatáu i 15,000 o unigolion o Gymru i fynd dramor dros y pedair blynedd gyntaf, gyda 10,000 o bobl dramor yn dod i astudio neu weithio yng Nghymru.
Dywedodd y gweinidog addysg Kirsty Williams: “Mae ein myfyrwyr a’n staff yn llysgenhadon pwysig dramor, gan hyrwyddo’r neges fod Cymru yn lle delfrydol i fyfyrwyr o led led y byd.”
Dywedodd mai’r rhai i elwaf fwyaf o’r cynllun newydd “fydd pobl ifanc ym mlynyddoedd olaf addysg uwchradd, sydd wedi wynebu heriau anodd o orfod gweithio o gartref dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n ddyledus arnom i sicrhau i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ac addysgwyr eu bod yn cael yr un cyfleoedd a’r blynyddoedd a fu,” meddai Ms Williams.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, is-ganghellor prifysgol Caerdydd:”Rydym yn sicr bydd y cynllun o fudd mawr i ddysgwyr ac yn fodd i godi proffil rhyngwladol Cymru fel gwald sy’n atyniadol, mwn cyswllt ac yn agored.”
Dywedodd Becky Ricketts, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr: “Mae myfyrwyr yng Nghymru yn haeddu’r cyfle gafodd pobl o’u blaenau nhw, a’r cyfle i ddysgu, tyfu a datblygu ar lefel rhyngwladol – rhywbeth oedd rhai yn poeni oedd wedi ei golli.”