Mae pennaeth amddiffyn y Philippines wedi mynnu bod rhagor na 200 o longau gyda milwyr Tsieineaidd yn gadael rîff Môr De Tsieina.

Mae’r rîff wedi ei hawlio gan Manila a dywedodd bod eu presenoldeb yn weithred bryfoclyd i filwrio’r ardal.

“Rydym yn galw ar y Tsieineaid i atal y cyrch hwn ac yn galw ar y cychod yma i ddychwelyd gan eu bod yn torri ein hawliau morol ac yn tresmasu i’n tiriogaeth sofran,” meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn Delfin Lorenzana mewn datganiad.

Ychwanegodd y byddai’r Philippines yn cynnal ei hawliau sofran.

Dywedodd corff gwarchod y llywodraeth a oedd yn goruchwylio’r rhanbarth ddadleuol fod tua 220 o longau Tsieineaidd wedi’u gweld yn Whitsun Reef, y mae Beijing hefyd yn ei hawlio, ar Mawrth 7

Protest ddiplomyddol

Pryder Rhyddhaodd luniau o’r llongau ochr yn ochr yn un o’r ardaloedd mwyaf poblogaidd o’r ddyfrffordd strategol.

Heddiw fe drydarodd yr Ysgrifennydd Tramor Teodoro Locsin fod y Philippines wedi ffeilio protest ddiplomyddol dros bresenoldeb Tsieina.

Mae’r rîff, y mae Manila yn ei alw Julian Felipe, yn rhanbarth crwn ar siâp bwmerang a bas tua 175 milltir forol (324km) i’r gorllewin o dref Bataraza yn Palawan yng ngorllewin y Philippines.

Mae ymhell o fewn parth economaidd unigryw’r wlad, lle mae’r Philippines yn “mwynhau’r hawl unigryw i fanteisio ar unrhyw adnoddau neu eu cadw,” meddai corff gwarchod y llywodraeth.

Mae’r niferoedd mawr o gychod Tsieineaidd yn bryder oherwydd y posibilrwydd o orbysgota a dinistrio’r amgylchedd morol, yn ogystal â risgiau i ddiogelwch mordwyo,” meddai, er iddo ychwanegu nad oedd y llongau’n pysgota pan gafodd nhw eu gweld.

Dywedodd Cirilito Sobejana, prif swyddog milwrol y Philippines, mai prif flaenoriaeth y fyddin yw “diogelu ein dinasyddion yn yr ardal, yn enwedig ein pysgotwyr,” drwy ragor o batrolau morol.

Pan ofynnwyd a fyddai’r Philippines yn ffeilio protest, trydarodd yr Ysgrifennydd Tramor Teodoro Locsin Jr, “dim ond os yw’r cadfridogion yn dweud wrthyf.”

Bu Tsieina ac Ynysoedd y Philippines yn dadlau ynglyn a’r rhan gyfoethog yma o ran adnoddau ers degawdau.