Bydd refferendwm annibyniaeth yr Alban yn cael ei gynnal “ar ddiwedd y pandemig”, yn ôl ysgrifennydd cyfansoddiadol yr Alban.
Dywedodd Mike Russell y bydd yr SNP yn cyhoeddi ei fil refferendwm yr wythnos hon.
Mae arweinydd SNP yn San Steffan, Ian Blackford, wedi nodi o’r blaen y gellid cynnal refferendwm tua diwedd eleni os caiff ei blaid ei hailethol yn Holyrood ym mis Mai.
Dywedodd Mr Russell wrth Sioe Sul BBC yr Alban y bydd pleidlais o’r fath yn cael ei chynnal “pan fydd yr amser yn iawn“.
‘Yr hawl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain’
Gofynnwyd iddo a fydd gan fil y refferendwm amserlen ac a fyddai’n dweud y bydd refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal erbyn diwedd y flwyddyn.
Atebodd yr MSP: “Mae’n mynd i ddweud y byddwn yn cynnal refferendwm annibyniaeth pan fydd yr amser yn iawn i’w gynnal a bydd hynny ar ddiwedd y pandemig.
“Does neb yn awgrymu unrhyw beth arall ac eto mae hynny wedi cael ei gamliwio a’r hyn mae’n mynd i’w ddweud yw rhywbeth anhygoel o normal sef y dylai pobl gael yr hawl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, dyna sut mae’r byd yn gweithio.”
Honnodd Mr Russell hefyd fod eraill yn ceisio tanseilio Senedd yr Alban – gan gynnwys Torïaid yr Alban.
Dywedodd llefarydd cyfansoddiad Ceidwadwyr yr Alban, Dean Lockhart: “Yn hytrach na chanolbwyntio ar adferiad ôl-bandemig yr Alban, maent (SNP) yn parhau i ddiystyru cynnal refferendwm niweidiol arall mor gynnar ag eleni.
“Mae Sturgeon a’i giang wedi colli’r plot.”