Bu farw’r nofelydd enwog a’r ffeminist o’r Aifft – Nawal El Saadawi – yn 89 oed
Bu farw’r nofelydd, oedd hefyd yn seiciatrydd, yn Cairo o broblemau iechyd yn gysylltiedig ag oedran, meddai swyddogion.
Dywedodd Gweinidog Diwylliant yr Aifft, Inas Abdel-Dayem, fod ei gwaith “wedi creu mudiad deallusol gwych”.
Ganed Dr Saadawi ym mis Hydref 1931 mewn pentref ger yr Afon Nîl, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Cairo.
Bu’n gweithio fel seiciatrydd a darlithydd prifysgol ac ysgrifenodd ddwsinau o lyfrau. Roedd hi hefyd yn awdur rheolaidd ym mhapurau newydd yr Aifft.
Eiriolwr ffyrnig dros hawliau menywod
Fel eiriolwr ffyrnig dros hawliau menywod yn yr Aifft a’r byd Arabaidd, canolbwyntiodd ei gwaith yn bennaf ar ffeministiaeth, trais domestig yn erbyn menywod ac eithafion crefyddol. Roedd hi’n wrthwynebydd llafar i anffurfio organau rhywiol menywod yn yr Aifft a thu hwnt.
Pan gyhoeddodd ei llyfr enwog, Women And Sex ym 1972, wynebodd storm o feirniadaeth a chondemniad gan sefydliadau gwleidyddol a chrefyddol yr Aifft.
Collodd ei swydd yn y Weinyddiaeth Iechyd hefyd.
Cafodd ei chadw a’i charcharu am ddau fis yn 1981 fel rhan o gyrch gwleidyddol eang gan yr Arlywydd Anwar Sadat.
Tra yn y carchar, ysgrifennodd Dr Saadawi am ei phrofiad mewn llyfr o’r enw: Memoirs From The Women’s Prison, gan ddefnyddio papur toiled a phensel cosmetig.
Dr Saadawi oedd sylfaenydd a phennaeth Cymdeithas Undod Menywod Arabaidd a chydsylfaenydd y Gymdeithas Arabaidd ar gyfer Hawliau Dynol.
Yn 2005, dyfarnwyd Gwobr Ryngwladol Inana iddi yng Ngwlad Belg, flwyddyn ar ôl iddi dderbyn gwobr y Gogledd-Dde gan Gyngor Ewrop. Yn 2020, fe’i henwyd gan Time Magazine ar eu rhestr 100 o Fenywod y Flwyddyn.
Roedd Drt Saadawi yn briod deirgwaith, ac mae dwy ferch wedi goroesi.