Mae holl drigolion a gweithwyr Ynys Gybi oddiar Ynys Môn yn cael eu hannog i gymryd prawf Covid-19 fel ymateb i’r nifer cynyddol o achosion lleol.

Yn ôl y data diweddaraf, mae cyfradd nifer yr achosion yng Nghaergybi ac Ynys Gybi sawl gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae gan yr ardal gyfradd o achosion positif o 466.5 am bob 100,000 o bobl – o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 42.

Yn ystod y saith diwrnod diwethaf cafodd 50 o achosion positif eu cofnodi yng Nghaergybi – o’i gymharu â chyfanswm o 77 ar gyfer Ynys Môn yn gyfan gwbl.

Mae’r Cyngor Sir, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru nawr wedi cymeryd camau i leihau graddfa’r lledaeniad drwy gynnig profion i bawb yno.

Mae nhw hefyd wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd i mewn i dai pobl eraill; peidio casglu mewn grŵpiau y tu mewn neu du allan – oni bai am aelodau eu cartref; cadw ddwy fetr oddi wrth bobl sydd ddim yn byw gyda nhw; gweitho gartref os gallant; gwisgo gorchudd wyneb lle mae angen; golchi dwylo’n rheolaidd ac agor ffenestri i gael awyr iach i mewn.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: “Er bod cyfyngiadau yn cael eu llacio’n raddol yn genedlaethol, mae’r sefyllfa ar Ynys Cybi yn parhau’n ddifrifol iawn ac mae angen glynu’n gaeth at y rheolau – golchi dwylo, gwisgo masg a chadw pellter cymdeithasol. Mae profi cymunedol torfol yn gam pwysig tuag at adnabod cymaint o achosion positif a phosib all fod yn lledaenu’r feirws heb wybod ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.”

Gyda un o bob tri o bobl gyda Covid-19 ddim yn dangos unrhyw symptomau – mae pawb yn cael eu hannog i fynd am brawf hyd yn oed os nad ydynt yn dangos symptomau neu eisoes wedi derbyn y brechlyn.

Rhaglen profi gymunedol yn dechrau heddiw

Bydd rhaglen profi gymunedol yn dechrau heddiw (Dydd Sul, Mawrth 21ain) a fydd yn cynnwys profion ychwanegol i deuluoedd gyda phlant oed ysgol uwchradd. Bydd profion hefyd yn cael eu dosbarthu i gartrefi gyda canolfan brofi cymunedol yn cael ei agor yng Nghanolfan Hamdden Caergybi’r wythnos nesaf.

Erfynnir pobl sydd gyda symptomau i fynd yn syth i ganolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car sydd wedi’i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi.

Mae’r ganolfan brofi ar agor rhwng 8:00yb ac 8:00yh ddydd Llun-ddydd Sul. Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Ar gyfer plant ysgol uwchradd (blynyddoedd 7 i 13) a’u cartrefi a swigen gartref, bydd profion Covid-19 (profion LFD sydyn) ar gael i’w casglu ar droed neu mewn car o faes parcio Lower Hill Street, Caergybi.

Bydd y rhain yn benodol ar gyfer plant ysgol uwchradd (blynyddoedd 7 i 13) a’u swigen teulu (mae’n bosib y bydd plant blynyddoedd 10-13 eisoes wedi derbyn profion gan yr ysgol) nad ydynt yn arddangos symptomau Covid-19 ac am wneud prawf cyflym adref. Mae’r gwasanaeth yma hefyd ar gael i gartrefi a swigod gyda phlentyn mewn gofal plant, ysgol neu goleg.

Bydd y safle ar agor o 9.30yb-4.30yp am wythnos. Nid yw’r safle yma ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Os yw’r prawf cyflym yn bositif, yna bydd rhaid i bobl fynd i’r ganolfan brofi sydd wedi’i lleoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi, mor fuan ȃ phosib, o fewn 24 awr, ar gyfer prawf er mwyn cadarnhad. Yn y cyfamser, dylai pobl hunan ynysu.

O yfory (Mawrth 22ain), bydd pecynnau profi Covid-19 yn dechrau cael eu dosbarthu i’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf ar Ynys Cybi. Mae’r cyngor yn annog pawb i gymryd y prawf ar ôl iddynt ei dderbyn – hyd yn oed os nad ydynt yn dangos symptomau. Byddent yn cael eu casglu yn hwyrach ar gyfer eu cludo i’r labordai i’w dadansoddi.

 

O ddiwedd yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau Mawrth 22), bydd canolfan brofi gymunedol Covid-19 newydd yn weithredol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Mae trigolion sydd ddim yn dangos symptomau Covid-19 yn cael eu hannog i gael prawf er mwyn atal lledaeniad pellach o’r feirws. Ni fydd rhaid iddyn nhw hunan-ynysu tra’n disgwyl eu canlyniad.

Mae’r cyngor yn gofyn i bobl beidio ag ymweld â’r ganolfan brofi gymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi os ydyn nhw’n arddangos symptomau Covid-19.

Dywedodd Ffion Johnstone, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Os oes gennych symptomau, ewch am brawf i’r ganolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car sydd wedi’i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi.

“Rydym i gyd yn bryderus am y cynnydd mewn achosion yng Nghaergybi ac mae angen gweithredu i ymateb fel cymuned i amddiffyn ein trigolion.”

“Drwy brofi mwy o bobl, yn cynnwys y rhai heb symptomau, rydym yn gallu dod o hyd i fwy o achosion positif o’r firws a thorri’r gadwyn drosglwyddo.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’r sefyllfa ar Ynys Gybi yn un difrifol. Mae’r data presennol yn dweud y cyfan. Mae’r feirws yn lledaenu o fewn y gymdeithas ac yn fygythiad sylweddol i iechyd pobl.”