Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn yn “edrych ar yr holl opsiynau” wrth i nifer yr achosion coronafeirws gynyddu’n gyflym ar yr ynys.

Mae 54% o’r 174 achos positif o’r coronafeirws ar yr ynys y mis hwn, wedi bod yn ardal Caergybi, yn ôl y Cyngor.

Mae lle i gredu bod yna bosibilrwydd fod rhai o’r achosion yn gysylltiedig gyda’r clwstwr o achosion yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac mae pryder fod eraill wedi digwydd oherwydd symudiadau pobl rhwng eu cartrefi ac yn y gwaith.

Ynys Môn sydd bellach â’r ail gyfradd uchaf o achosion fesul poblogaeth yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae pobol yn yr ardal wedi derbyn cyngor i hunanynysu a threfnu prawf yn uned brofi dros dro ar Gilgant Stanley yn y dref os oes ganddyn nhw symptomau Covid-19.

Nid yw’r Arweinydd, Llinos Medi, yn disytyru cyflwyno cyfnod clo yng Nghaergybi – na chau ysgolion y sir.

“Mae’r trafodaethau wedi dechrau hefo ysgolion yr ardal i weld beth ydi’r posibiliadau”, meddai wrth raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Fydd yna gyfnod clo arbennig yn mynd o gwmpas Caergybi? – rydan ni’n edrych ar yr holl opsiynau.”

Ychwanegodd mewn datganiad: “Mae hi bron i flwyddyn ers cyflwyno’r cyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws.

“Er bod y cyfnodau clo hyn wedi bod yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd – maent wedi cael effaith niweidiol ar bawb.

“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy o anodd a heriol i bob un ohonom, ond ni allwn laesu ein dwylo a difetha’r holl waith caled.

“Mae’n rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosib a pharhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol er mwyn diogelu ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau.”

“Hynod o bryderus”

Dywedodd Dylan Williams, dirprwy brif weithredwr Cyngor Môn: “Mae’r sefyllfa yng Nghaergybi a’r cynnydd diweddar mewn achosion yn hynod o bryderus”.

“Mae’n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan yn awr drwy ddilyn y canllawiau hollbwysig – cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd pan fod angen i ni wneud hynny, a pheidio â chymysgu â theulu a ffrindiau.”

“Rydym yn deall bod y mesurau hyn yn anodd i bawb, ond dyma’r unig ffordd y gallwn fynd yn ôl at ryw fath o normalrwydd.”