Mae’r ddadl o blaid cael Ysgrifennydd Gwladol i Gymru yn “gwanhau bob blwyddyn”, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Daeth sylw Mark Drakeford yn ymateb i gwestiwn gan Delyth Jewell, AoS Plaid Cymru, yng nghyfarfod llawn brynhawn ddoe.
Fis diwetha’ dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, bod angen i Lywodraeth Cymru stopio a “phoeni am eu statws bach yng Nghaerdydd ac edrych ar y darlun mawr”.
Dywedodd hyn wedi i’r Llywodraeth godi pryderon am gyllid a fyddai’n cael ei reoli’n ganolog o Lundain.
Tynnodd AoS y Blaid sylw at y dyfyniad gerbron AoSau, ac mi rannodd Mark Drakeford ei farn.
“O ran Swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol, dw i wedi credu ers hir bod y ddadl o blaid ysgrifenyddion gwladol tiriogaethol, fel eu gelwir, wedi gwanhau bob blwyddyn,” meddai’r Prif Weinidog.
“Dw i wedi credu hynny ers dros ddegawd, tra oedd yna lywodraethau Llafur a llywodraethau Ceidwadol.
“Hen arfer o’r dyddiau cyn datganoli yw Ysgrifenyddion Gwladol a dw i’n cytuno â Delyth Jewell bod y ddadl o’u plaid yn gwanhau o hyd,” meddai wedyn.
“Ac mae’n sicr yn gwanhau pan mae deiliad y swydd yn defnyddio’r iaith bychanol yr ydym wedi ei brofi oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru.”
Ategodd Mark Drakeford bod yna “ddadl tros sefydlu gweinyddiaeth Whitehall sydd yn cymryd cyfrifoldeb adeiladol tros y berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig.”
Gwraidd y gynnen
Mis diwethaf mi ddaeth i’r amlwg y byddai cyllid £4.8bn i ariannu prosiectau ‘lefelu fyny’ (a gyhoeddwyd gan y Trysorlys yn Lloegr) hefyd ar gael yng Nghymru a’r Alban.
Gan amlaf byddai cyhoeddiad gwariant yn Lloegr (ar fater datganoledig) yn tanio cyllid ychwanegol i’r cenhedloedd datganoledig, ond y tro hwn mi fydd y Trysorlys Lloegr yn rheoli’r arian yn ganolog.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’i thanseilio, ac o sathru ar faterion sydd wedi’u datganoli.
Daeth sylwadau Simon Hart yn ymateb i’r feirniadaeth yma. Lleihau anghydraddoldeb rhanbarthol yw nod yr agenda ‘lefelu fyny’, yn ôl Llywodraeth San Steffan.