Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiwygio cyflogau, telerau ac amodau er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal i weithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mewn dadl a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd y prynhawn yma (dydd Mercher, Mawrth 17), bydd Plaid Cymru yn galw am i wahaniaethau ddod i ben, ac i weithwyr gofal gael isafswm gwarantedig o £10 yr awr.
O dan y trefniadau presennol, mae pob gweithiwr iechyd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.
Ond nid yw hynny’n wir yn y sector gofal.
Dywedod Plaid Cymru y byddan nhw’n creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, gyda gofal cymdeithasol am ddim pan fo’i angen, gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu rhoi ar yr un graddfeydd cyflog.
Yn nadl y Senedd heddiw, bydd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno isafswm gwarantedig o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n dileu’r gofyniad hwn ac yn ei le sôn am fforwm newydd – y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol – y byddai disgwyl iddo “edrych ar sut i wella telerau ac amodau yn y sector.”
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: “Mae’r cyhoedd wedi cymeradwyo ein gofalwyr, nawr mae’n bryd i’r llywodraeth gamu i fyny a rhoi gwerth i’r clapio.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’n gofalwyr – mewn llywodraeth, byddwn yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol gwirioneddol ddi-dor, a fydd yn rhoi’r parch y maent yn ei haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd.
“Os yw’r pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru o ddifrif am hyn, byddant yn cael cyfle i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd heddiw, ac ymrwymo i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal.
“I’n gofalwyr, sydd wedi rhoi cymaint i mewn i ofalu amdanom yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn ystod ein hoes, dyma’r lleiaf y gall llywodraeth ei wneud drostynt.”