Mae penderfyniad gan Uber i roi isafswm cyflog gwarantedig, tâl gwyliau a phensiynau i’w gyrwyr wedi “agor y drws” i weithwyr eraill yn yr economi ‘gig’ gael gwell cyflog ac amodau, yn ôl undebau.

Cyhoeddodd y cwmni y bydd mwy na 70,000 o yrwyr, o ddydd Mercher ymlaen, yn awr yn cael eu trin fel gweithwyr o dan gyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig.

Croesawyd y symudiad, yn dilyn camau cyfreithiol hirfaith, gan undebau sy’n cynrychioli cannoedd o filoedd o weithwyr yn yr economi ‘gig’.

Dywedodd Mick Rix, swyddog cenedlaethol undeb y GMB: “Dylai cyhoeddiad Uber nodi diwedd y daith i hunangyflogaeth ffug.

“Mae brwydr GMB gydag Uber bellach yn agor y drws i weithwyr, a’u hundebau, ennill y frwydr am well cyflog ac amodau mewn cwmnïau ar draws yr economi gig.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady fod cyhoeddiad Uber yn ganlyniad blynyddoedd o ymgyrchu gan undebau, gan ychwanegu: “Nawr mae angen i ni fynd ag ef i’r lefel nesaf.

“Byddwn yn pwyso’n galed ar Uber a chwmnïau platfform eraill i gydnabod undebau a rhoi llais priodol i staff yn y gwaith.

“Mae gweithwyr gig yn haeddu’r un hawliau sylfaenol â phawb arall.

“Ni fydd undebau’n gorffwys nes bod cyflog ac amodau wedi gwella ar draws yr economi ‘gig’.

“A byddwn yn cadw’r pwysau ar y llywodraeth i ddefnyddio ei bil cyflogaeth hirfaith i fynd i’r afael â gwaith ansicr.”

Cyflog byw

Dywedodd Uber, gafodd ei lansio yn y Deyrnas Unedig yn 2012, y bydd ei yrwyr nawr yn ennill o leiaf y cyflog byw cenedlaethol Ar gyfartaledd, mae ei yrwyr yn ennill £17 yr awr yn Llundain a £14 yng ngweddill y DU.

Bydd pob gyrrwr yn cael amser gwyliau yn seiliedig ar 12.07% o’u henillion, a fydd yn cael eu talu bob pythefnos.

Byddant yn cael eu cofrestru’n awtomatig mewn cynllun pensiwn.

Anfonodd Uber e-bost at ei gwsmeriaid a ddywedodd: “O heddiw ymlaen bydd gyrwyr Uber yn y Deyrnas Unedig yn cael amser gwyliau, eu cofrestru’n awtomatig mewn cynllun pensiwn, ac yn sicr o ennill o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol.

“Mae gyrwyr yn rhan hanfodol o’n bywydau bob dydd ac rydym yn falch o fod yn gwneud y newidiadau hyn i’r ffordd y maent yn ennill gydag Uber.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni cyfreithiol Leigh Day, sy’n cynrychioli mwy na 4,000 o yrwyr Uber mewn hawliadau hawliau gweithwyr: “Mae hwn yn benderfyniad pwysig, nid yn unig i yrwyr Uber sydd wedi bod yn brwydro dros hawliau gweithwyr ers dros bum mlynedd, ond i’r economi ‘gig’ gyfan.”