Bydd Taioseach Iwerddon yn cynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd Joe Biden yn ddiweddarach wrth i ddathliadau traddodiadol Dydd Sant Patrick fynd ar-lein.

Yn draddodiadol, mae’r Taoiseach yn teithio i Washington DC ar gyfer wythnos Sant Patrick i gynnal cyfres o gyfarfodydd lefel uchel gyda’r ffigurau gwleidyddol mwyaf pwerus yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r pandemig wedi atal Micheal Martin rhag gwneud y daith eleni, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yn rhithiol yn lle hynny.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster a’r dirprwy Brif Weinidog Michelle O’Neill hefyd gynnal galwad rithwir gyda’r Is-lywydd Kamala Harris ddydd Mercher – cyfarfod a allai hefyd gynnwys ymddangosiad gan yr Arlywydd Biden.

Mae Micheal Martin a’r Arlywydd Biden yn nodi eu Diwrnod Sant Patrick cyntaf ers iddynt gymryd eu swyddi.

Gan gadw at draddodiad, bydd eu cyfarfyddiad yn cynnwys cyflwyno powlen o shamrock i Joe Biden.

Mae’r Arlywydd yn aml yn siarad â balchder mawr am ei wreiddiau Gwyddelig.

Cyn y cyfarfod, rhagwelodd y Taoiseach y byddai’r trafodaethau’n cynnwys Brexit ac argyfwng y coronafeirws.

Bydd problemau Iwerddon o ran sicrhau cyflenwadau brechlyn Covid-19 hefyd yn cael eu trafod.

Yr wythnos hon, dywedodd yr Arlywydd Biden fod yr Unol Daleithiau yn trafod gyda “sawl gwlad” ynghylch unrhyw frechlynnau dros ben a allai fod ar gael.

Wrth sôn am y cyfarfod â’r Arlywydd, dywedodd Micheal Martin: “Rwy’n credu mai agwedd sylfaenol y cyfarfod fydd cryfhau a dyfnhau ymhellach fyth y berthynas ddwyochrog rhwng Iwerddon a’r Unol Daleithiau.”

Dechreua rhaglen ddigwyddiadau Micheal Martin yn y prynhawn gyda chyfarfod â Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Nancy Pelosi.

Bydd hefyd yn cwrdd â’r Is-lywydd Harris.

Mae taith rithiol y Taoiseach hefyd yn cynnwys cinio a gynhelir gan Nancy Pelosi a digwyddiad coffa ar gyfer y diweddar John Hume.