Mae’n “anochel” y bydd etholaethau mawr ymhlith etholaethau newydd Cymru, yn ôl y corff sydd yn gyfrifol am eu hail-lunio.
Mae yna gynlluniau ar droed i sicrhau bod yr 650 etholaeth sydd yn cael eu cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin yn debyg o ran maint poblogaeth (tua 75,000 yr un).
A dan y drefn newydd yma bydd nifer Aelodau Seneddol Lloegr yn cynyddu o 533 i 543, bydd nifer ASau yr Alban yn cwympo o 59 i 57, ac mi fydd nifer Gogledd Iwerddon yn aros yr un fath (18 sedd).
Ond o holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru fydd ar ei cholled fwyaf, wrth i nifer y seddi gwympo o 40 i 32.
Fel rhan o’r broses o gwtogi bydd rhaid ail-lunio ffiniau etholaethau Cymru, a bellach mae Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi’r canllawiau y byddan nhw’n eu dilyn wrth arolygu’r etholaethau.
Mae eu dogfen ‘Canllaw i’r Arolwg 2023’ yn nodi y bydd yn rhaid “cyfaddawdu” wrth lunio ffiniau newydd sydd yn cyd-fynd â rheolau.
Ail-lunio’r ffiniau
“Hoffai’r Comisiwn egluro o’r cychwyn cyntaf ei bod yn anochel, o gofio’r nifer gymharol fach o etholwyr mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, y bydd yna rhai etholaethau sy’n fawr yn ddaearyddol,” meddai’r ddogfen.
“Hefyd, o ganlyniad i’r niferoedd cyfyngedig o etholwyr mewn rhai o ardaloedd Cymoedd De Cymru, gallai etholaethau gael eu ffurfio sy’n cwmpasu mwy nag un cwm.
“Yn ogystal, mewn rhai ardaloedd ni fydd modd osgoi rhannu prif gynghorau. Bydd angen cyfaddawdu er mwyn creu patrwm o etholaethau ledled Cymru sy’n cydymffurfio â Rheolau’r ddeddfwriaeth.
“Mae’n bwysig deall y gallai hyd yn oed newidiadau bach i un etholaeth effeithio ar ardaloedd cyfagos, ac ar Gymru gyfan o bosibl.”
Bydd yn rhaid bod gan bob etholaeth rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr – yn seiliedig ar y ffigyrau a darparwyd gan y Swyddfa Ystadegau ar Ionawr 5, 2021.
Am fod ganddi statws arbennig ni fydd ffiniau etholaeth Ynys Môn yn cael eu hailystyried.
Gwahodd y cyhoedd i gyfrannu
Mae Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi galw ar i bobol Cymru gyfrannu at y broses o newid y ffiniau, ac mi fyddan nhw’n cynnal tri chyfnod ymgynghori.
“Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r Canllaw i’r Arolwg heddiw,” meddai Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams.
“Rydym yn benderfynol o ddatblygu’r argymhellion gorau posib ar gyfer etholaethau newydd Cymru, a gwyddom mai’r unig ffordd o sicrhau hynny yw denu’r cyfranogiad cyhoeddus mwyaf rydym erioed wedi ei gael.
“Mae ein Canllaw yn gosod yn glir sut byddwn yn datblygu ein hargymhellion, ac yn bwysig, sut gallwch chi chwarae rhan yn y broses.
“Mae hygyrchedd wrth galon beth rydym yn ceisio cyflawni. Mae gan bawb yng Nghymru llais hollbwysig i’w hychwanegu i’r sgwrs am ffiniau etholaethol Cymru, ac rydym am i bawb yng Nghymru cael cyfle i ddatgan eu barn.”
Gwrthwynebiad
Yn siarad â Golwg fis diwethaf dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru, bod crebachiad seddi Cymru yn “arwydd o fethiant” a bod angen cryfhau ein Senedd yng Nghymru yn dilyn y cam.
Dywedodd Glyn Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig y canlynol: “Dw i ddim yn ei hoffi ond dw i’n gwybod ei fod yn anochel – dyna fy marn i.”
Rhai blynyddoedd yn ôl roedd yna gynlluniau i gwtogi niferoedd ASau o 650 i 600, ac yn sgil hynny mi fyddai seddi Cymru wedi cwympo i 29. Cefnwyd ar y cynlluniau yma yn y pendraw.