Comisiwn Ffiniau i Gymru
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi newidiadau pellach i fap posib ar gyfer etholaethau Seneddol Cymru.
O dan y cynlluniau fe fyddai Cymru’n colli mwy na chwarter o’i Haelodau Seneddol.
Y bwriad ydi lleihau nifer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru o 40 i 29, i gyd-fynd â’r ddeddf ledled gwledydd Prydain i ostwng nifer yr etholaethau o 650 i 600 gan olygu y bydd rhwng 71,031 ac 78,507 o etholwyr ym mhob etholaeth.
Mae’r newidiadau’n dilyn ymgynghoriad y llynedd, ac maen nhw’n galw am ymateb yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus erbyn Rhagfyr 11.
Mae’r newidiadau mwyaf yn cynnwys uno Ceredigion a Gogledd Sir Benfro, Caerfyrddin yn dod yn etholaeth unigol ac Aberhonddu, Sir Faesyfed a Maldwyn yn dod yn un etholaeth fawr.
“Dweud eu dweud”
Yn ôl Steve Halsall, Ysgrifennydd y Comisiwn, mae’r cynigion diwygiedig yn “talu sylw i ffactorau eraill sy’n berthnasol i Gymru ac wedi ceisio nodi’r cynigion sydd fwyaf addas i’r anghenion lleol yng Nghymru”.
“Rwy’n pwysleisio nad y rhain yw’r set derfynol o gynigion ac rwy’n annog y cyhoedd yng Nghymru i fanteisio ar y cyfle i gael dweud eu dweud yn ystod y cyfnod ymgynghori.”
Mae disgwyl i’r cynigion terfynol gael eu cyflwyno erbyn mis Hydref 2018.
Mae’r Comisiwn yn esbonio y bydd 15 o’r etholaethau presennol yn cael eu cynnwys yn gyfan gwbl mewn etholaeth newydd; a chwe phrif gyngor yn cael eu cynnwys yn gyfan gwbwl sef – Blaenau Gwent, Ceredigion, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy a Thorfaen.
Bydd chwe etholaeth â mwy na 1000km2 o arwynebedd, sef – Aberhonddu, Maesyfed a Threfaldwyn; Caerfyrddin; Ceredigion a Gogledd Sir Benfro; De Clwyd a Gogledd Maldwyn; Gwynedd a Chanol a De Sir Benfro.
Trosglwyddo cyfrifoldebau i’r Cynulliad
Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, wedi beirniadu’r cwtogiad posib gan ddweud y dylai gael ei wrthbwyso â mwy o gyfrifoldebau i’r Cynulliad Cenedlaethol.
“Dydy Plaid Cymru ddim yn gwrthwynebu’r egwyddor o gwtogi nifer yr Aelodau Seneddol, ond mae ffocysu’r toriadau hynny’n anghymesur ar etholaethau Cymreig yn gwanhau llais Cymru yn San Steffan, ac yn cryfhau gafael San Steffan ar ein gwlad.”
“Dylai unrhyw doriad yn nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig gael ei wrthbwyso gyda throsglwyddiad cyfrifoldebau i’r Cynulliad Cenedlaethol a chynnydd cyfatebol mewn gallu.”
Y map
Mae modd gweld y map ar wefan y Comisiwn Ffiniau, a dyma restr o’r etholaethau sy’n cael eu cynnig ganddyn nhw:
- Alyn a Glannau Dyfrdwy;
- Blaenau Gwent;
- Aberhonddu, Maesyfed a Threfaldwyn;
- Pen-y-bont a Gorllewin Bro Morgannwg;
- Caerfyrddin;
- Caerffili;
- Gogledd Caerdydd;
- De a Dwyrain Caerdydd;
- Gorllewin Caerdydd;
- Ceredigion a Gogledd Sir Benfro;
- Conwy a Cholwyn;
- Cwm Cynon a Phontypridd;
- De Clwyd a Gogledd Maldwyn;
- Fflint a Rhuddlan;
- Gwynedd;
- Gŵyr a Gorllewin Abertawe;
- Llanelli;
- Merthyr Tudful a Rhymni;
- Sir Fynwy;
- Castell-nedd;
- Casnewydd;
- Ogwr ac Aberafan;
- Rhondda a Llantrisant;
- Canol a De Sir Benfro,;
- Dwyrain Abertawe;
- Torfaen;
- Dwyrain Bro Morgannwg;
- Wrecsam;
- Ynys Môn a Bangor.